Rhoi

Ddydd Sul 11 Medi 2022, cwblhaodd Claire Halliday, claf o Ganolfan y Fron, ras fyd-enwog The Great North Run a dewisodd gefnogi Apêl Canolfan y Fron Caerdydd a’r Fro wrth wneud hynny.

Mae Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau yn trin rhwng 450 a 500 o gleifion canser y fron newydd bob blwyddyn. Yn 2020, roedd Claire yn un o’r cleifion hynny.

Yng ngeiriau Claire ei hun: “Cefais ddiagnosis o ganser y fron ym mis Ionawr 2020 a chefais mastectomi sengl yn Ysbyty Llandochau dim ond tri diwrnod cyn fy mhen-blwydd yn 50 oed. Roedd y gofal a gefais bryd hynny yn rhagorol. Yn anffodus, daeth COVID ychydig wythnosau’n ddiweddarach a diflannodd y rhan fwyaf o’r gefnogaeth gan fod popeth wedi cau. Yn y pen draw, cefais driniaeth ffisio yng Nghanolfan y Fron ym mis Rhagfyr 2020 a chefais fy nghyflwyno i’r tîm gwych sy’n rhan o Grŵp Ffitrwydd Rhuban Pinc.

“Y grŵp, dan arweiniad Victoria Collins, Uwch Ffisiotherapydd, oedd yr achubiaeth roeddwn i wedi bod yn chwilio amdani. Y tro cyntaf i mi gwrdd â’r grŵp i fynd am dro o amgylch Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston oedd y tro cyntaf i mi allu rhannu fy mhrofiad o ganser gyda merched eraill a oedd yn rhannu’r un stori. Ers hynny, rydw i wedi mynychu rhai o’r cyfarfodydd pan fo gwaith yn caniatáu ac rydw i wedi cyfarfod â rhai menywod arbennig iawn. Rwy’n gwybod bod codi arian yn helpu’r gwasanaeth gwych hwn i barhau a hoffwn ddangos fy ngwerthfawrogiad.”

Yn dilyn y ras, dywedodd Claire ei bod wedi cael penwythnos i’r brenin ac roedd The Great North Run yn ddigwyddiad gwych. Cwblhaodd y ras mewn 2:41:33 ac roedd hi mor falch o ystyried bod y llwybr yn eithaf bryniog!

Mae Claire yn dal i dderbyn cyfraniadau, ond hyd yma, mae hi eisoes wedi codi ychydig dros £600 ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron.

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hapêl Canolfan y Fron a’r hyn y gall yr arian a godir ei gefnogi, neu i gael gwybodaeth am unrhyw un o’n hapeliadau, neu i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk Gallwch hefyd gefnogi Claire tan ddiwedd mis Medi: Mae Claire Halliday yn codi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro (justgiving.com)

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.