
Ddwy flynedd yn ôl, profodd Millie a’i theulu ddigwyddiad a newidiodd eu bywydau’n llwyr pan ddioddefodd ei mam anewrysm a oedd wedi rhwygo yn ei hymennydd. Roedd yn gyfnod trawmatig yn llawn ansicrwydd, ond diolch i’r gofal eithriadol a ddarparwyd gan y staff yn Uned Gofal Uchel Niwrolawfeddygol T4 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, goroesodd ei mam.
“Roedd y staff yn rhagorol,” meddai Millie. “Fe wnaethon nhw gefnogi ein mam a’n teulu cyfan drwy gydol y llawdriniaeth a’r adferiad. Roedden nhw’n ofalgar, yn gyfeillgar, ac yn hynod gefnogol yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf yn ein bywydau.”
Roedd yr adferiad yn heriol – yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn aml, roedd y teulu’n teimlo’n ddiymadferth, yn ansicr a fyddai eu mam byth yn dychwelyd i’r gwaith neu’n adennill ymdeimlad o normalrwydd. Ond trwy wydnwch a chefnogaeth ddiysgog tîm T4, fe wnaeth eu mam ennill y frwydr. Er bod ei thaith yn parhau a’i bod hi’n dal i wynebu anawsterau, mae’r profiad wedi dysgu’r teulu i werthfawrogi bywyd yn ddyfnach.
“Heb y tîm ar T4 a’r gwaith anhygoel maen nhw’n ei wneud, rydyn ni wir yn credu na fyddai ein mam yma heddiw. Rydym yn ddiolchgar am byth.”
I ddiolch am y gofal a gafodd ei mam, cododd Millie swm anhygoel o £2,826 ar gyfer y ward. Fel rhan o’i hymdrechion codi arian, fe wnaeth Millie ymgymryd â her bersonol – cwblhau ras 10K Casnewydd ym mis Ebrill a ras 10K Porthcawl ym mis Gorffennaf 2025.
“Fel rhywun nad yw’n rhedwr, roedd yn her enfawr,” meddai Millie. “Ond roeddwn i’n benderfynol o roi rhywbeth yn ôl i’r ward a achubodd fywyd fy mam.”
Dychwelodd Millie a’i mam i T4 yn ddiweddar i ymweld â’r staff a diolch iddyn nhw’n bersonol am y gofal a ddarparwyd ganddyn nhw i achub bywyd ei mam. Roedd eu hymweliad yn foment emosiynol o fyfyrio a gwerthfawrogi, gan nodi diwedd taith codi arian a ddechreuodd gyda gobaith ac a ddaeth i ben gydag effaith.
Mae stori Millie yn atgof pwerus o bwysigrwydd gofal tosturiol a chryfder teuluoedd yn wyneb adfyd. Mae ei hymdrechion codi arian yn parhau i gefnogi gwaith hanfodol Uned Gofal Uchel Niwrolawfeddygol T4, gan sicrhau bod mwy o deuluoedd yn derbyn yr un gefnogaeth sy’n achub bywydau.
Diolch i ti, Millie, am dy ymroddiad a’th haelioni anhygoel.