
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o arddangos y gwaith gwych a grëwyd fel rhan o’n cydweithrediad â Phrosiect Ieuenctid Dusty Forge, ACE – Action in Caerau and Ely.
Mae’r prosiect, Celfyddydau’r Ifanc dros Newid, yn rhan o’r rhaglen Celf a’r Meddwl, menter a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Baring, sy’n archwilio’r potensial ar gyfer celfyddydau’r ifanc ac yn rhannu ffyrdd creadigol o gefnogi llesiant i bobl ifanc.
Gwnaeth Nicola Parsons, artist ac Ymarferydd Celfyddydol yn ACE – Action in Caerau and Ely, fynd ati i weithio gyda phobl ifanc yn Dusty Forge i greu collages i lywio ac ysbrydoli dyluniadau mygydau, a hefyd gyda disgyblion a staff Ysgol Uwchradd Fitzalan yng Nghaerdydd.
Rydym wrth ein boddau i weld dyluniadau a gwaith celf lliwgar yn cael ei greu drwy’r fenter newydd hon






Prosiect Ieuenctid Dusty Forge
Mae pobl ifanc wedi cydnabod hyn fel ‘lle diogel’ lle gallant ymlacio a rhannu straeon a syniadau.
Nicola Parsons, Artist ac Ymarferydd Celfyddydol yn ACE – Action in Caerau and Ely



Disgyblion yn Ysgol Uwchradd Fitzalan, Arddangosfa Dros Dro
Pob llun wedi’i gredydu i Nicola Parsons, ACE – Action in Caerau and Ely