
Mae Tîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn rhan o Fenter Celfyddyd a Chrebwyll Cymru gyfan a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Cyflwynwyd ein Prosiectau Celfyddyd a Chrebwyll Blwyddyn 1, 2021-2022 o fewn yr amgylchedd clinigol yn Adran Niwroseiciatreg Uned Iechyd Meddwl Oedolion Hafan y Coed, Ysbyty Athrofaol Llandochau, o fewn y gymuned yng Nghanolfan Adnoddau Iechyd Meddwl 4 Winds a Phafiliwn Bowlio y Grange, Caerdydd, a thrwy’r Coleg Adfer a Lles, BIPCAF.
Buom yn cydweithio â’r sefydliadau celfyddydol Four in Four, Rubicon Dance a’r artist Louise Jensen i ddarparu rhaglen o ymyriadau celfyddydol arloesol sy’n cefnogi iechyd meddwl, ac rydym yn falch iawn o weld mentrau yn parhau i gael eu creu gan y cyfle hwn am gyllid. Ochr yn ochr â’n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau ac artistiaid, gwnaethom greu sylfaen gadarn ar gyfer ein prosiectau Celfyddyd a Chrebwyll Blwyddyn 2 sydd bellach yn cael eu cynnal.
Hoffem rannu rhai o’r canlyniadau, gan gynnwys Canllaw Cymorth a gynhyrchwyd ar y cyd gan yr artistiaid Paul Whittaker a Tamsin Griffiths sy’n darparu cyfoeth o ddysg i artistiaid a gweithwyr proffesiynol.