Yn ddiweddar, cymeradwyodd Panel Cynigion Loteri’r Staff gais i adnewyddu’r gwagle yn Ynys Saff yn y Ganolfan Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, gyda’r nod o greu amgylchedd diogel, llawn cysur i’r rhai sy’n dod i ddefnyddio’r Gwasanaeth Ymosodiadau Rhywiol. Drwy osod y darluniau o olygfeydd natur mewn mannau aros allweddol, mae’r adran bellach wedi’i thrawsnewid yn ofod diogel a deniadol i unigolion sy’n aros am eu hapwyntiadau a’u harchwiliadau.
Yng nghyfarfod diweddar Panel Cynigion Loteri’r Staff cymeradwywyd Cam 2 y prosiect ‘Celf ar gyfer SARC’ i osod finylau wal yn Ardal Bediatrig, Ynys Saff. Yn dilyn datblygiadau rhanbarthol SARC, mae Ynys Saff eisoes yn Ganolfan Bediatrig yn Ne-ddwyrain Cymru ar gyfer cleientiaid o dan 14 oed sydd wedi profi ymosodiad rhywiol acíwt.
Mae cam cyntaf y prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac mae eisoes yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn Ynys Saff i oedolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth drwy ei wneud yn amgylchedd mwy tawel a chysurlon. Bydd Cam 2 y prosiect yn canolbwyntio ar yr ardal Bediatrig, gyda’r nod o greu mannau sy’n addas i blant ar gyfer cyfweliadau, cefnogaeth, eiriolaeth ac archwilio.
Bydd gwella’r amgylchedd clinigol hwn yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i blant o bob rhan o Gaerdydd a’r Fro sydd wedi profi ymosodiad rhywiol, gan mai dyma hefyd lle mae plant o bob rhan o’r de, y gorllewin a’r canolbarth yn cael archwiliadau fforensig. Bydd ychwanegu pwyntiau o ddiddordeb a delweddau llawen yn helpu i ddenu sylw cleientiaid iau, a bydd yn eu helpu i deimlo’n ddiogel ac yn sefydlog. Bydd y gwelliannau hyn hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar les staff drwy gydol eu rhyngweithio dyddiol â chleientiaid sydd wedi dioddef trawma.
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff wedi bod yn falch iawn o gefnogi dau gam y prosiect hwn, ac maent yn cydnabod pwysigrwydd y gwasanaeth a’i effaith ar ei ddefnyddwyr. Drwy ddarparu gofod disgleiriach a chynhesach yn ystod cyfnod mor anodd, bydd eu cyfnod yn Ynys Saff yn brofiad mwy croesawgar. Mae’r Panel Cynigion yn gobeithio y bydd y gwaith celf yn dod â chysur a llonyddwch i’r rhai sydd ei angen fwyaf.
Pam ddylech CHI ymuno â Loteri’r Staff!
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.
Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.
Os hoffech ymuno â’r Loteri i Staff am gyfle i ennill £1,000 bob wythnos, gellir llenwi ffurflenni cais yma.
Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk i gael manylion. Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?