Rhoi

Yn gynharach eleni, yn garedig iawn, cafodd Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gynnig lleoedd am y ddim ar y daith seiclo flynyddol o Gaerdydd i Ddinbych-y-Pysgod gan drefnwyr CARTEN100 2022.

Penderfynodd dau feiciwr gwych ymgymryd â’r her honno – Emily Harrington ac Andrew Knight, dau ffrind da sy’n frwd dros seiclo a oedd yn awyddus i gefnogi’r Uned Adfer Argyfwng.

Cynhaliwyd y reid ar ddydd Sadwrn 7 Mai a llwyddodd Emily ac Andrew i gwblhau’r pellter o 109 milltir. Gyda’r haul yn gwenu, fe wnaethant fwynhau’r diwrnod ac fe’u hysgogwyd drwy gydol y daith gan haelioni’r holl bobl hyfryd a’u noddodd.

Ar ran y ddau, dywedodd Emily “Mae Sparky a fi wedi bod yn ffrindiau ers tua 25 mlynedd. Rydyn ni’n mwynhau seiclo ac mae iechyd meddwl yn fater sy’n agos at ein calonnau ni’n dau. Gwnaethom fanteisio ar y cyfle i seiclo’r CARTEN100 i godi arian at Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, ond nid yw’r naill na’r llall ohonom wedi seiclo cymaint o bellter mewn un diwrnod o’r blaen ac fe drodd y brwdfrydedd cychwynnol yn deimladau o ofn yn y dyddiau cyn y digwyddiad.”

“Roeddem wrth ein bodd gyda faint o nawdd a godwyd, roedd yn llawer mwy na’r disgwyl a chawsom ein cyffwrdd gan haelioni ein ffrindiau, ein teulu a’n cydweithwyr. Fodd bynnag, roedd nifer y rhoddion yn golygu ein bod yn teimlo’r pwysau i groesi’r llinell derfyn! Yn y diwedd fe gawson ni ddiwrnod gwych – roedd y tywydd yn hyfryd ac roedd yn wirioneddol hwyl i seiclo mor bell gyda miloedd o bobl eraill. Aeth pethau ychydig yn anodd ar filltir 75, ond fe wnaeth coffi a thorth frag ein hadfywio ac fe orffennom ni ar gyflymder da. Rydym yn gobeithio ei gyflawni eto yn y dyfodol a byddem yn ei argymell i unrhyw un sy’n hoffi seiclo – mae e o fewn eich cyrraedd. Dewisais godi arian ar gyfer yr Uned Adfer Argyfwng yn benodol oherwydd rwy’n gwybod bod yr uned yn gwneud gwaith rhagorol a bod cleifion rwy’n gweithio gyda nhw wedi gwerthfawrogi eu mewnbwn, a gall gynnig opsiwn arall yn hytrach na gorfod mynd i’r ysbyty.”

Cododd Emily ac Andrew dros £1600 rhyngddynt, a braf oedd cysylltu â Kim Thomas, Rheolwr yr Uned Adfer Argyfwng a oedd wedi’i syfrdanu ac ychydig yn emosiynol gydag ymdrechion y ddau feiciwr, a haelioni eu cefnogwyr. Dywedodd Kim “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Emily ac Andrew. Mae’n rhaid ei fod wedi cymryd dewrder aruthrol i allu cwblhau’r daith hon. Diolch hefyd i’ch ffrindiau, teulu a chydweithwyr hynod hael am noddi.

Gallaf eich sicrhau y bydd y rhoddion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r Uned Adfer Argyfwng ac i’r holl gleientiaid a staff sy’n mynychu’r uned. Byddwn yn defnyddio’r arian a godwyd yn ddoeth ac yn sicrhau bod profiad y cleient yn cael ei gyfoethogi. Mae gennym rai syniadau gwych yn barod ac rydych chi i gyd wedi ei gwneud hi’n bosibl i ddod â’r syniadau hyn yn fyw. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.

Ar ran Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, diolch i Emily, Andrew a phawb sydd wedi cefnogi, ac mae amser o hyd i gyfrannu: https://www.justgiving.com/fundraising/Emily-Ay1 https://www.justgiving.com/fundraising/Andrew-Knight35

Os yw hyn wedi eich ysbrydoli i ymgymryd â’ch her eich hun, cysylltwch â’n tîm codi arian drwy e-bostio fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.