
Fel rhan o Fenter Celfyddyd a Chrebwyll Cymru gyfan a ariennir gan Sefydliad Baring a Chyngor Celfyddydau Cymru, roedd yn bleser gan Raglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles gomisiynu Four in Four i weithio gyda’r Coleg Adfer a Lles.
Yn seiliedig ar eu profiad helaeth o greu a chyflawni prosiectau Celfyddydau ac Iechyd yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol, mae Tamsin Griffiths a Paul Whittaker wedi gwneud eu hymchwil a datblygu set gynhwysfawr o argymhellion y gellid eu defnyddio fel canllaw dysgu i artistiaid sy’n dymuno gweithio ym maes y celfyddydau mewn iechyd a lles, ac i ddiogelu iechyd meddwl pob ymarferydd, fel rhan o Gyllid Blwyddyn 1, 2021-2022.
Bydd yr hyn a ddysgir hyn hefyd yn cefnogi ac yn ychwanegu at yr hyn a gynigir o ran y celfyddydau yn y Coleg Adfer a Lles ac yn cyfrannu at raglen Celfyddydau ac Iechyd Meddwl cynaliadwy i’r cyhoedd yng Nghymru.
Four in Four
Mae Tamsin Griffiths a Paul Whittaker yn artistiaid trawsddisgyblaethol sy’n creu prosiectau celfyddydol cyfranogol sy’n cymylu ffiniau ffurfiau celf ac yn herio canfyddiadau am iechyd corfforol a meddyliol. Gyda ‘Phrofiad Personol’ gydol oes o Salwch Meddwl, maent yn rhoi mewnwelediad amhrisiadwy i’r Heriau Iechyd Meddwl y mae pobl yn eu hwynebu mewn lleoliad Gofal Iechyd. Gan weithio ar y cyd, maent yn cyfuno eu harbenigedd yn y celfyddydau gweledol, theatr, sain, ysgrifennu creadigol, ffilm, dawns a pherfformiad corfforol i weddu i ffurf a chynnwys.

