Rhoi

Yr wythnos hon croesawyd myfyrwyr a chynrychiolwyr o Ysgol Gynradd Ton-yr-Ywen a fu’n codi arian fel rhan o ddigwyddiad Calonnau Iach ar gyfer Santes Dwynwen. Roeddem yn falch iawn o glywed am eu hymdrechion yn codi arian i gefnogi ymgyrch Martha’s Dancing Heart.

Roedd y Pennaeth Mrs James-Griffiths wrth ei bodd gyda’r ffordd yr oedd cymuned yr ysgol wedi cofleidio her “Calonnau Iach ar gyfer Diwrnod Santes Dwynwen”. Yn ogystal â dysgu am Santes Dwynwen, bu’r plant i gyd yn ymgymryd â gweithgareddau yn yr ysgol yn canolbwyntio ar ofalu am eu lles a’u calonnau. Fel her ychwanegol gwnaeth Cyfeillion Ton-yr-Ywen a’r Pennaeth osod her ysgol gyfan i’r holl blant gymryd rhan ynddi. Roedd hyn yn cynnwys gweithgaredd noddi arddull bingo i’w gwblhau gartref gyda’u teuluoedd, gan godi arian ar gyfer ymgyrch Martha’s Dancing Heart ac Elusen Cyfeillion Ton-yr-Ywen hefyd.

Roedd pawb a gymerodd ran yn awyddus i gefnogi elusen leol y galon ar gyfer y digwyddiad codi arian hwn ar thema’r galon. O ystyried yr effaith y mae Martha’s Dancing Heart wedi’i chael ar y datblygiadau gwych yn y Gwasanaethau Cardioleg Plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru (o fewn tafliad carreg i’r ysgol), rhoddwyd 50% o’r rhoddion o’r digwyddiad ar gyfer yr achos hwn.

Cafodd Martha, ynghyd â’i mam, Michelle y cyfle i ddweud mwy wrth y plant am yr ymgyrch a sut bydd eu rhoddion yn cael eu defnyddio. Ymunodd yr Athro Orhan Uzun, Dr Nadia Hajiani, Cardiolegwyr Pediatrig a’r Ffetws Ymgynghorol a Dr Victor Ofoe Cardiolegydd Pediatrig Ymgynghorol â phawb hefyd.

Dywedodd Michelle, y fam “Diolch yn fawr iawn i holl blant, staff, rhieni a chefnogwyr Ton-yr-Ywen. Mae’r hyn rydych chi wedi’i wneud yn hollol anhygoel. Roedd her ‘calonnau iach’ yn rhyfeddol a bydd y £1357.57 a godwyd yn cael ei ddefnyddio ar unwaith i helpu plant a theuluoedd â chyflyrau’r galon mewn ysbytai ledled y wlad. Chi yw ein Harwyr y Galon! Diolch”.

Mae gwaith arloesol gan Uned y Galon i Blant a Rhwydwaith Cardiofasgwlaidd Pediatrig De Cymru, gan weithio’n agos gyda chleifion a’u teuluoedd, wedi galluogi plant ag arrhythmia’r galon i wisgo technoleg sy’n monitro gweithgaredd eu calon.

Mae’r oriorau’n monitro lefelau ECG ac yn cymryd lle offer anghyfforddus, drud, llai cywir. Mae wedi arwain at gydnabod Ysbyty Athrofaol Cymru fel Canolfan Ragoriaeth.

Gwnaeth yr Athro Orhan Uzun ddechrau gweithio gyda theuluoedd ei gleifion (Teuluoedd Calon Cymru) a’r tîm ehangach sy’n cynnwys Nyrsys Arbenigol Cardiaidd Pediatrig, Pediatregwyr sydd â diddordeb mewn Cardioleg mewn Ysbytai Cyffredinol Ardal, ac Ambiwlans Awyr i Blant Cymru, i ddod o hyd i ateb – un sydd wedi profi’n fuddiol ar sawl lefel.

Bydd yr arian a godir yn cael ei ddefnyddio i brynu technoleg ychwanegol i helpu llawer iawn mwy o blant a’u teuluoedd.

Dechreuwyd Ymgyrch Martha’s Dancing Heart gan fam Martha, Michelle, sydd wedi addo codi £1 miliwn yn ystod oes ei theulu i gefnogi’r Gwasanaethau Newyddenedigol a’r Gwasanaethau Cardioleg Pediatrig a ofalodd am Martha ar ôl ei genedigaeth. Mae hi wedi cymryd rhan yn nifer o rasys Hanner Marathon Caerdydd ac mewn heriau athletaidd eraill, ac wedi trefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau codi arian cymunedol. Os hoffech gefnogi’r ymgyrch, cysylltwch â fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.