Rhoi

O ganlyniad i COVID-19, ni fu erioed yn bwysicach diogelu iechyd a lles emosiynol a chorfforol staff ym mhob rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae’r adroddiad canlynol yn tynnu sylw at rai enghreifftiau o sut mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys Panel Ceisiadau’r Loteri Staff, wedi cefnogi lles staff drwy roddion hael a dderbyniwyd rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2021.

Laniardiau i staff sy’n nodi eu bod wedi’u heithrio rhag gwisgo masg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn cydnabod bod staff o fewn y sefydliad sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd nad oes modd eu gweld weithiau ac sy’n eu hatal rhag gallu gwisgo masgiau yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, mae aelodau o staff ac aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys cleifion, wedi herio aelodau o staff na allant wisgo masg gan ofyn pam nad ydynt yn gwisgo masg.

Rhoddwyd arian, y gofynnwyd amdano gan yr Adran Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, er mwyn rhoi laniardiau i tua 220-250 o aelodau o staff, gan nodi nad oes angen iddynt wisgo masg mewn ardaloedd nad oes angen gwisgo cyfarpar diogelu personol ynddynt. Mae’r laniardiau hyn, sydd ag arwyddlun blodyn yr haul arnynt, wedi galluogi staff i deimlo’n fwy hyderus tra byddant yn y gwaith, gan leihau pryder am gael eu herio a gwella boddhad mewn swyddi a chynhyrchiant o ganlyniad. Mae cael y laniardiau hyn hefyd wedi rhoi sicrwydd i staff a chleifion sydd wedi helpu’n sylweddol i wella iechyd a lles y gwisgwr a’r rhai o’i gwmpas.

Gorsaf Ail-lenwi Dŵr yn Hafan Staff, Ysbyty Athrofaol Cymru

Rhoddwyd arian i osod gorsaf ail-lenwi dŵr oer annibynnol gyda’r dŵr yn dod o’r prif gyflenwad o fewn Hafan Staff Ysbyty Athrofaol Cymru sydd wedi’i lleoli yn Adain Lakeside. Mae’r fath beiriannau eisoes wedi’u gosod yn Ysbyty’r Barri ac Ysbyty Dewi Sant ac mae’r rhain wedi’u canmol. Mae gosod y peiriant hwn yn ychwanegiad cynaliadwy i’r Hafan Staff drwy helpu i leihau’r defnydd o blastig untro sy’n cefnogi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhellach drwy helpu i greu Cymru sy’n fwy Llewyrchus, Gwydn ac Iach. Mae’r peiriant hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at les a chynhyrchiant staff a boddhad mewn swyddi ac o ganlyniad gofal gwell a mwy effeithlon i gleifion. Bydd hyn hefyd yn helpu i wella iechyd a lles corfforol a meddyliol staff a chleifion o ganlyniad.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.