
Mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch iawn o gyflwyno ei harddangosfa ddiweddaraf sy’n cynnwys brodweithiau anatomegol gan Cath Janes, a leolir ym mhrif ardal Plaza Ysbyty Athrofaol Llandochau. Mae darluniau craff ac anamotegol fanwl gywir Cath o’r corff dynol yn adlewyrchiad o’n hunigoliaeth a’n hanfod.
Mae fy mrodwaith anatomegol wedi’u pwytho â llaw yn dangos i wylwyr fod ein tirweddau mewnol mor brydferth ag unrhyw beth y byddwn yn dod o hyd iddo ar gerdyn post gwyliau.
Gan herio ein canfyddiadau o’n cyrff ein hunain, mae fy ngwaith yn helpu gwylwyr i ddeall, a hyd yn oed caru, eu hanatomi eu hunain waeth beth yw’r problemau iechyd y mae’n eu cyflwyno. Wedi’i weld trwy lens brodwaith traddodiadol – cyfrwng sy’n galw atgofion o amgylcheddau meddal, gan feithrin ffigurau mamol a phlentyndod gwarchodedig – caiff delweddaeth feddygol graffig ei gwneud yn ddiogel i ni ei harchwilio. Y canlyniad yw sgwrs am ein cyrff a pham rydym yn ofni gweld y rhannau mwyaf personol ohonom ein hunain.
Mae’n anrhydedd i mi bwytho ar gyfer cleifion sy’n ceisio coffâd, dathliad a hyd yn oed heddwch yn dilyn eu teithiau iechyd eu hunain. Yn yr un modd, rwy’n falch iawn o gael fy nghomisiynu gan weithwyr meddygol proffesiynol sy’n gwerthfawrogi fy manylder a’m craffter.
Yn dilyn llawfeddygaeth gymhleth ar gyfer Bell’s Palsy, mae fy nyluniadau yn seiliedig ar fy ymchwil fy hun ac rwy’n defnyddio dyraniad, lle bo’n bosibl, i ddeall gweadau a siapiau. Yn 2022 enillais bum gwobr gan Sefydliad y Darlunwyr Meddygol a gallwch weld mwy o fy ngwaith a chomisiynau yn www.cathjanes.com
-Cath Janes




