Rhoi

Mae’n bleser gan Dîm y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles, Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi cyllid gan NHS Charities Together i gefnogi cyfleoedd yn y gymuned ym maes y celfyddydau creadigol drwy Rubicon Dance a Mental Health Matters.

Rydym wedi adeiladu partneriaethau llwyddiannus, hirsefydlog gyda’r ddau sefydliad sy’n gweithio gyda’n cleifion mewnol ac aelodau staff yn sawl un o’n safleoedd ysbytai, gan wella profiadau a chynnig gweithgareddau difyr sy’n gwella lles mewn cymaint o ffyrdd.

Drwy ein menter gelfyddydol, Bloom, rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu cyfleoedd o fewn ein cymunedau yng Nghaerdydd a’r Fro i barhau â’r cymorth hwn i bobl gartref.

Ni allai gwaith Rubicon fod yn fwy gwerthfawr; yn ystod ein hamser yn cydweithio, rydym wedi gweld dros ein hunain yr effaith fawr y mae’r gwaith wedi’i gael ar gleifion yn Ysbyty Dewi Sant. Nid y cleifion yn unig sy’n elwa chwaith; mae cydweithio gyda Rubicon wedi gwella ymarfer ein staff sydd wedi dysgu sgiliau, technegau a dulliau newydd gan Rubicon.

-Gabriel Mandal, Mental Health Matters

Byddwn yn cynnal sesiynau Symud a Cherddoriaeth rheolaidd yn ein cymunedau o fis Chwefror 2023 gyda’r nod o fagu hyder, dod â phobl ynghyd a gwella lles. Ceir rhestr hir o fanteision o ran iechyd a lles!

Cysylltwch â ni os hoffech ragor o wybodaeth neu i fynegi eich diddordeb yn y prosiect hwn, byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi: artsinhealth.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.