Rhoi

Ddydd Sul 1 Hydref 2023, cynhelir 20fed Hanner Marathon Caerdydd ar draws y ddinas. Gan yr amcangyfrifir bod miloedd o bobl yn cymryd rhan, rydym yn tynnu sylw at ein rhedwyr ysbrydoledig.

Mae Ben yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer Headroom, sef gwasanaeth ymyrraeth gynnar mewn seicosis (EIP) o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Mae Headroom yn cefnogi unigolion rhwng 14 a 25 oed sy’n profi pwl cyntaf o seicosis.

Mae anhwylderau seicotig ymhlith y problemau iechyd meddwl mwyaf difrifol, ac mae’r boblogaeth hon o bobl ifanc mewn perygl uchel o ddatblygu anhwylderau hirdymor gyda chostau personol a chymdeithasol sylweddol iawn. Datblygwyd gwasanaethau EIP yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn benodol i leihau’r risgiau hyn trwy gynnig yr ymyriadau seicogymdeithasol a meddygol gorau posibl yn ystod y cyfnod o gyfle a geir yng camau cynnar y salwch. Wrth i’r dull hwn esblygu, bu ffocws cynyddol ar hyrwyddo iechyd corfforol, twf personol, a chynhwysiant cymdeithasol trwy ymyriadau seicogymdeithasol gweithredol.

Meddai Ben, “Mae hanner marathon yn llawer pellach nag yr wyf erioed wedi’i redeg o’r blaen – ac mae fy nghorff yn sicr yn fy atgoffa o hyn bob tro rwy’n ceisio rhedeg ychydig yn gyflymach neu am ychydig yn hirach. Serch hynny, ar 1 Hydref 2023 byddaf yn cychwyn ar antur 21km fy hun.” Os hoffech chi gefnogi Ben a’i helpu i gyrraedd ei nod codi arian, ewch i’w dudalen Just Giving yma

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.