Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Ayla Cosh, Cyfarwyddwr Clinigol Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai.

Dechreuodd Ayla ei rôl bresennol yn yr adran a oedd yn cael ei adnabod fel CHAP, ac ers hynny mae wedi symud ymlaen i fowldio a datblygu’r gwasanaeth i’r hyn a elwir bellach yn Wasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS), gan ddarparu gofal iechyd i’r grwpiau mwyaf agored i niwed.

Dywedodd Rebeca Short, Rheolwr Gweithredol, “Mae ymroddiad Ayla i leihau anghydraddoldebau iechyd ledled Caerdydd a’r Fro wedi cael ei werthfawrogi’n eang gan staff a chleifion. Mae hi’n cael ei hedmygu am ei gallu i fod yn chwaraewr tîm gwych yn ogystal â bod yn draws-gydweithredwr cryf sy’n ymgysylltu ag ystod eang o wasanaethau. Roedd ei phrosiect traws-gydweithio diweddar gyda’r Groes Goch a’r Tîm Amlddisgyblaethol i’r Digartref yn llwyddiant mawr a chafodd ei chanmol am weithio mewn partneriaeth â gwasanaethau eraill.”

Nid yn unig y mae Ayla yn ymroddedig i ddatblygu a thyfu’r gwasanaeth i gyrraedd y rhai sydd fwyaf agored i niwed, ond mae hi hefyd yn garedig ac yn ofalgar tuag at aelodau staff a bob amser yno i’w cefnogi.

Wedi gweithio ochr yn ochr ag Ayla am ddwy flynedd, dywedodd Kaveh Karimi, Rheolwr Gwasanaeth Prosiect y Groes Goch, “Mae Ayla wedi cael ei hedmygu am ei hymroddiad ac mae’n credu bod gan y boblogaeth hon ddyfodol mwy disglair o’i blaen gyda gwell darpariaeth gofal iechyd. Ei syniadau hi yw’r rhai a sbardunodd ddechrau’r prosiect newydd ac a gafodd effaith gadarnhaol iawn ar brofiad y claf. Mae ei dull rhagweithiol yn ansawdd prin ond eithriadol sy’n cryfhau’r tîm Cynhwysiant Iechyd. Mae hi’n adnabyddus am fynd y tu hwnt i’w dyletswyddau. Mae pawb ar ei thîm yn ei pharchu am fod yn unigolyn caredig, cymwynasgar a medrus.”

Bydd Ayla yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Mai ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.