

Rydym yn falch iawn o gyflwyno ein Harddangosfa Plaza newydd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, Arwyr Di-glod, gan yr Artist a’r Darlunydd Amy Jackson.
Mae Amy Jackson yn ddarlunydd llawrydd o Gymru sy’n arbenigo mewn arddull pwyntiliaeth, gyda’i gwaith yn aml yn portreadu problemau cymdeithasol ac amgylcheddol mewn ffyrdd newydd a chyffrous. Caiff ei hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas, gan greu gwaith celf a darluniau sy’n cyfleu neges neu achos. Gan ddefnyddio arddull pwyntiliaeth a gweithio gyda phen ac inc, caiff dyluniadau Amy eu creu gyda chymysgedd o dechnegau digidol a thraddodiadol, sy’n arwain at filoedd o ddotiau yn ffurfio darnau ag ystyr. Mae’n bosibl treulio rhwng deng munud a channoedd o oriau ar bob darn, o sticeri hyd at furluniau.
Mae’r casgliad o waith o fewn Arddangosfa’r Plaza yn cynnwys prosiect presennol a pharhaus Amy o gyfres o bortreadau’r GIG, sy’n amlygu gwaith diwyd a gofalus staff y GIG yn ystod y pandemig. Dros y flwyddyn ddiwethaf, gofynnodd Amy i aelodau staff y GIG o bob rhan o’r DU i enwebu eu hunain, cydweithiwr, ffrind neu aelod o’r teulu i fanteisio ar y cyfle i gael portread o’u hunain. Mae’r rhain wedi, a byddant yn parhau i fod yn rhan o gyfres gyffredinol o bortreadau’r GIG gan Amy a bydd yr holl enwebeion yn derbyn print o’r gwaith celf gwreiddiol i’w gadw fel ffordd o ddangos gwerthfawrogiad.
Cafodd y syniad ar gyfer y prosiect a’r casgliad o waith ei ysbrydoli’n drwm gan y pandemig a’r golled a’r difrod a ddaeth i’n bywydau. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dangos a phrofi pa mor bwysig yw’r GIG, a pha mor bwysig mae wedi bod erioed. Mae pob portread yn y gyfres yn cymryd rhwng 50 awr hyd at dros 200 awr i’w cwblhau ac yn cynnwys miloedd o ddotiau.
Mae’r darnau celf yn yr arddangosfa hon i gyd yn brintiau o’r gwaith celf gwreiddiol a grëwyd gan Amy ac, ar ôl cwblhau ei phrosiect, bydd Amy yn rhoi’r darnau celf hyn i’r ysbytai lle bu’r aelodau o staff y GIG yn gweithio.





