Rhoi

ARTWORKS: Art Works – Lle mae gan bob person ifanc fynediad at bŵer trawsnewidiol creu celf.

Mae Rhaglen y Celfyddydau ar gyfer Iechyd a Lles yn falch o rannu’r cydweithrediad sydd ar y gweill gyda Gweithdai Beth Morris i lansio ‘ARTWORKS: Art Works’ gyda chyllid gan NHS Charities Together.

Ysgol gelf gymunedol greadigol yw Gweithdai Beth Morris sy’n darparu gweithdai i ysbrydoli a rhoi hyder i blant ac oedolion o bob gallu. Mae gennym berthynas hirhoedlog gyda Beth Morris, sydd wedi cynnal nifer o brosiectau i gefnogi cleifion a’r gymuned ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, gan gynnwys cleifion o’r ganolfan Adsefydlu Asgwrn Cefn a Niwroadsefydlu yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Yn fwy diweddar, bu dros 60 o’i myfyrwyr iau yn datblygu gwaith celf ar gyfer prosiect Gweirgloddiau Gwych Cymru, gan arwain at greu darn o waith celf enfawr, llawen sy’n dod ag ymdeimlad o dawelwch i staff, cleifion ac ymwelwyr i’n hysbyty yng Nghaerdydd.

Dros y ddwy flynedd nesaf, ein nod yw i ARTWORKS gynnig gweithdai creadigol hygyrch rheolaidd, gan ddarparu cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu’n artistig a chyflawni eu potensial. Mae tîm ARTWORKS yn credu bod mynediad at gelf yn hawl ddynol a bod hunanfynegiant a mynegiant creadigol yn bŵer. Rydym wedi ymrwymo i anrhydeddu lleisiau pobl ifanc a’u cymunedau nad oes ganddynt fynediad at gelf.

Mae’r angen am ARTWORKS wedi datblygu o’r effaith negyddol hirdymor y mae Pandemig COVID-19 wedi’i chael ar bobl ifanc, yn enwedig y rhai o gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol. Byddwn yn creu gofod lle mae parch, amrywiaeth a thegwch yn flaenllaw yn ein rhaglen. Er ein bod yn gweithio gyda phawb, mae gennym le sylfaenol i’r rhai sydd wedi wynebu rhwystrau i’r celfyddydau, addysg a chyflogaeth. Rydym yn gobeithio cysylltu â grwpiau a sefydliadau lleol sydd eisoes yn cefnogi cymunedau o’r fath i helpu i lywio datblygiad y rhaglenni.

Mae Beth wedi dylunio rhaglen ARTWORKS i ddarparu sesiynau cefnogol rheolaidd sy’n dathlu creadigrwydd, ond hefyd yn darparu trefn sefydlog ac ymagwedd ymarferol sy’n effeithio’n gadarnhaol ar les meddyliol. Ni fydd angen unrhyw brofiad artistig blaenorol ar fyfyrwyr, ond mae’n rhaid iddynt fod rhwng 16-25 oed, wedi ymrwymo i fod yn rhan o gymuned greadigol, ac yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau a’u hunanhyder.

https://www.bethmorrisworkshops.co.uk/adult-workshops/artworks

Yn ystod y gweithdai, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i greu gan ddefnyddio cyfryngau celfyddydol amrywiol, gan gynnwys cylchgronau, barddoniaeth, ffotograffiaeth, collage, tecstilau, dylunio ffasiwn, pwytho, peintio, creu printiau, gwneud gemwaith, dylunio esgid chwaraeon (sneaker) a chrefftau amlddiwylliannol fel rhan o raglen hyblyg a fydd yn ymateb ac yn addasu i anghenion yr holl fyfyrwyr. Bydd artistiaid proffesiynol a phobl greadigol yn cael eu comisiynu’n rheolaidd i rannu eu straeon a’u sgiliau fel y gall myfyrwyr ARTWORKS ddatblygu eu rhai eu hunain.

Mae celf yn ein helpu i fynegi ein hunain, yn rhoi llais i ni ac yn gwella ein hiechyd meddwl. Mae’n fraint cael cefnogi’r rhaglen greadigol hon ac rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod yr ymgeiswyr a gweithio ochr yn ochr â’r artistiaid gwadd anhygoel rydym wedi’u trefnu. Rydym i gyd yn weithiau celf, a gobeithio y bydd y gweithdai hyn yn helpu pobl ifanc i sylweddoli hynny.

-Beth Morris

Bydd ARTWORKS yn dechrau yn gynnar yn 2023 ac edrychwn ymlaen at roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ei ddatblygiadau.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect hwn, e-bostiwch Bex Betton, Swyddog Cymorth Codi Arian y Celfyddydau ar bex.betton@wales.nhs.uk neu Beth Morris, cydlynydd Artworks ar info@bethmorrisworkshops.co.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.