Rhoi

Ddydd Mercher 20 Gorffennaf, gwnaethom fynychu Diwrnod Agored yn Ein Dôl Iechyd yn Ysbyty Athrofaol Llandochau. Yng nghanol y gwyrddni hardd, croesawyd yr artist Dilys Jackson i’r safle i ddadorchuddio ei cherflun Paill.

Diolchodd Mike Jones, Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, i Dilys am roi ei cherflun i’r safle. Dilys Jackson yw un o gerflunwyr mwyaf blaenllaw Cymru sydd ag enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am greu cerfluniau, gosodiadau a darluniau celfydd Efydd a Cherrig. Mae ei gwaith i’w weld mewn casgliadau a lleoliadau ledled y DU ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu comisiynu Dilys i greu’r cerflun Paill gwych hwn ar gyfer Ein Dôl Iechyd.

Ganwyd Dilys yn Sri Lanka, ac astudiodd yn Ysgol Celfyddyd Gain Slade ac mae wedi cael gyrfa nodedig yn y celfyddydau. Dyfarnwyd nifer o gomisiynau a phreswylfeydd artistiaid iddi mewn sawl gwlad, ac mae hefyd wedi gweithio fel Pennaeth, rheolwr celfyddydau amgylcheddol ac wedi dysgu gydag ysgolion arbennig yn Amgueddfa Cymru.

Mae Dilys wedi cefnogi ein Rhaglen y Celfyddydau yn y Bwrdd Iechyd ar sawl achlysur, gan rannu ein cred yng ngrym y celfyddydau creadigol i wella ein lles a dod â phobl at ei gilydd.

Hoffem ddiolch i Dilys am greu’r cerflun nodedig hwn ar gyfer Ein Dôl Iechyd a fydd, fel y gwyddom, yn ysbrydoli ein cleifion, staff, ymwelwyr a’r gymuned ehangach.

Gellir gweld y cerflun wrth fynedfa Ein Dôl Iechyd, Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.