Rhoi

Rydym yn falch iawn o groesawu arddangosfa newydd Ysbyty’r Barri gan Sight Life, grŵp ffotograffiaeth pobl ddall a rhannol ddall.

Mae’r grŵp wedi tynnu lluniau sy’n amrywio o fywyd gwyllt i gerddorion yn perfformio, yn ogystal â phortreadau a themâu art deco.

Sight Life yw’r enw gweithredu newydd ar gyfer Sefydliad y Deillion Caerdydd. Wedi’i sefydlu ym 1865, Sight Life yw un o elusennau hynaf Cymru ac mae’n parhau i ddarparu cyngor hanfodol ac ystod o wasanaethau i gefnogi pobl ddall a rhannol ddall ledled De Cymru i fwynhau bywydau annibynnol, gweithgar, cymdeithasol a chyflawn.

Dywedodd aelod gweithredol o’r grŵp, Des Radcliffe, sydd wedi’i gofrestru’n ddall ac a arferai fod yn ffotograffydd llawrydd: “Mae’r arddangosfa’n dangos bod pobl nad ydynt o reidrwydd yn gallu gweld yn dda iawn, yn dal i allu cael bywyd llawn hwyl yn gwneud yr hyn maen nhw’n ei fwynhau. Mae’r grŵp wedi dewis sampl o’n gwaith i’w arddangos, a gobeithiwn y bydd y cyhoedd yn eu cael yn ysbrydoledig ac yn mwynhau’r arddangosfa.”

Mae’r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd yn ystafell weithgareddau Sight Life yn ei chanolfan yng Nghaerdydd ac wedi trefnu teithiau ffotograffiaeth i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Y Theatr Newydd, Bae Caerdydd, Castell Caerffili, a llawer o lefydd eraill o ddiddordeb yn ardal De Cymru a’r cymoedd a’r cyffiniau.

Mae Sight Life a’r grŵp ffotograffiaeth yn ddiolchgar i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro am eu cefnogaeth.

www.sightlife.wales

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.