Wrth i Ysbyty Athrofaol Llandochau dyfu'n gyflym i fod yr ail ysbyty mwyaf yng Nghymru, mae hefyd yn datblygu'n ganolfan ar gyfer gorffwys, gwella ac adsefydlu.
Mae gan y cyfleusterau sydd yno gleifion tymor hir yn aml iawn, sy'n gallu bod yn yr ysbyty am gryn amser, er enghraifft yn yr uned newydd, Hafan y Coed (Uned Iechyd Meddwl Oedolion) a'r gwasanaeth cefnogi dementia pum diwrnod yr wythnos, Canolfan Ffeibrosis Systig Oedolion Cymru Gyfan sy'n gofalu am gleifion Ffeibrosis Systig cyn iddynt gael trawsblaniad ysgyfaint, a datblygiad Rookwood, lle bydd y gwasanaethau adsefydlu ar ôl cael anaf i'r cefn neu'r ymennydd yn symud yn y pen draw.
Bydd Ein Berllan yn rhywle unigryw; ar dir yr ysbyty ond ar agor i’r gymuned; yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, bydd yn rhywle i gleifion a staff allu dianc oddi wrth arogleuon yr ysbyty a’r wardiau swnllyd, a chael mwynhau bod allan yn yr awyr agored gyda’u hymwelwyr.
Gallwch gyfrannu at Apêl Ein Berllan drwy JustGiving, yma drwy glicio'r botwm rhoi ar ein gwefan.
Rhoi