Mae Apêl Prop ar gyfer cleifion yn yr Uned Adsefydlu Arbenigol Niwrowyddorau rhanbarthol, sydd yn Ysbyty Rookwood ar hyn o bryd.
Fel arfer bydd gan gleifion anabledd difrifol ac sy'n newid bywyd ar ôl cael anafiadau i'r ymennydd, ac yn aml iawn bydd yn rhaid iddynt ddysgu sut i wneud tasgau bob dydd eto.
Gall rhai cleifion fod yn adsefydlu am rhwng tair a phum mlynedd; mae hyn yn golygu ei bod hi’n hyd yn oed pwysicach fod eu hamgylchedd yn gyfforddus ac yn ysgogol.
Mae rhoddion i Apêl Prop yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’n cleifion. Yn ddiweddar, mae’r Apêl wedi talu am sesiynau cerddoriaeth gan Lucie Phillips, therapydd o Nordoff Robbins Ar hyn o bryd mae Lucie yn gweithio gyda chleifion ar ward 7 Ysbyty Rookwood bob wythnos, yn cynnal sesiynau therapi cerdd, sy’n gallu cefnogi pobl wrth iddynt addasu ac adsefydlu.
Mae’r arian hefyd wedi cael ei wario ar wella’r ystafell ddydd, sydd bellach yn edrych yn llawer mwy cartrefol diolch i haelioni cefnogwyr anhygoel Apêl Prop. Erbyn hyn, mae bwrdd, cadeiriau a gemau newydd sbon yn yr ystafell dydd. Mae’n lle rhagorol i gynnal partïon Nadolig, Pasg a Haf ar gyfer cleifion ac ymwelwyr.
Diolch o galon i bawb sydd wedi dewis cefnogi’r cleifion a’u teuluoedd yn Ward 7 Ysbyty Rookwood drwy redeg marathonau, eillio eu gwallt, dod i un o’n partïon bendigedig neu drwy gyfrannu.
If you would like to read the latest Prop Appeal Newsletter, please click here.
Mae modd i chi gyfrannu i Apêl Prop drwy JustGiving yma drwy glicio ar y botwm Rhoi ar ein gwefan.
Rhoi