Rhoi

Ar nos Fercher 22 Tachwedd, ymwelodd yr Elusen Iechyd ag Ysbyty Athrofaol Llandochau i lansio Apêl Shine Bright.

I gychwyn dathliadau’r Ŵyl, canodd côr Ysgol Gynradd Cogan amrywiaeth o ganeuon, yn llawn ysbryd y Nadolig. Diolchodd Cadeirydd y Pwyllgor Cronfeydd Elusennol, John Union, i’n holl noddwyr hael eleni, ac eglurodd sut y byddai’r arian a godwyd o’r digwyddiad yn cefnogi Ein Dôl Iechyd.

Gyda’r cyfri i lawr yn ei anterth, fe wnaeth y prif noddwr F P Hurley & Sons droi’r goleuadau ymlaen a gwnaeth y sêr ar adeilad Hafan y Coed oleuo’r awyr, wrth i’r goeden Nadolig ddisgleirio’n brydferth. Diolch i roddion gan Tesco Penarth, Morrisons Bae Caerdydd, a Finsbury Foods, roedd pawb yn gallu mwynhau mins peis a chacennau.

Er ei fod yn hynod o brysur yr adeg hon o’r flwyddyn, ymddangosodd Siôn Corn gyda Mrs Claus ac un o’i gorachod dibynadwy ochr yn ochr â dwy garw hardd yn eu gwisgoedd Nadoligaidd.

I gloi’r digwyddiad, gwnaeth côr Ysgol Stanwell ganu casgliad o ganeuon bywiog a bloeddiodd y dorf yn uchel.

Hoffai Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ddiolch i’r holl noddwyr a rhoddwyr hael a helpodd i gynnal y digwyddiad hwn, ac i’r rhai a fynychodd ac a ddathlodd hwyl y Nadolig. Diolch hefyd i’r adran Cyfalaf, Ystadau a Chyfleusterau am osod y sêr a helpu i’w troi ymlaen, ac i Christow Home, a Seasons Garden and Christmas Outlet a roddodd oleuadau ychwanegol i’w harddangos. Bydd y sêr yn cael eu goleuo drwy gydol mis Rhagfyr er mwyn i gleifion, staff, ymwelwyr a’r gymuned leol eu mwynhau.

Os hoffech gyfrannu i’n Dôl Iechyd y Nadolig hwn, cliciwch yma.

Nadolig Llawen!

Noddwyr

F P Hurley & Sons
Whitehead Building Services
Respond Healthcare
Bws Caerdydd
30 Park Place
Ysgol Gynradd Evenlode
Ysgol Gynradd Cogan
Ysgol Stanwell

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.