Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Amanda Whiles, Technegydd Atgyflyru, Gwasanaeth Symud ac Ystum De Cymru, wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Awst.

Mae Amanda yn Dechnegydd Atgyflyru ar gyfer Gwasanaeth Symud ac Ystum De Cymru ac mae ei rôl yn ymwneud â phrosesu offer osgo a symudedd sydd wedi’u dychwelyd o bob rhan o Dde Cymru, sydd ddim yn dasg rhwydd. Yna mae’n rhaid glanhau’r offer a’i ailgylchu i’w ailddefnyddio neu os bernir ei fod y tu hwnt i waith atgyweirio, rhaid iddo gael ei baratoi i’w droi’n sgrap.

Wrth drafod rôl Amanda, yn ôl un cydweithiwr, “Mae Amanda bob amser yn trefnu’r offer symudedd arbenigol, sy’n golygu bod rhannau wrth law bob amser ar gyfer y Clinigwyr a’r Peirianwyr sy’n aml eu hangen ar frys. Mae hefyd gan Amanda wybodaeth helaeth am y nifer enfawr o rannau arbenigol. Bydd hi bob amser yn mynd gam ymhellach i helpu ei chydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth.”

Dywedodd Paul Rogers, Rheolwr Cyfarwyddiaeth y Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar, “Mae Amanda’n drefnus iawn ac yn cynnal safonau uchel yn adran ailbrosesu cadeiriau olwyn y Ganolfan Symud ac Ystum. Mae hi bob amser yn barod i helpu ac yn hapus i gyflawni dyletswyddau eraill pan fo timau yn brin o staff. Mae brwdfrydedd a hunan-gymhelliant Amanda yn gaffaeliad gwirioneddol i’r gwasanaeth ac yn cefnogi gofal cleifion i raddau helaeth.”

Bydd Amanda’n Arwr Iechyd yn ystod mis Awst ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.