Yn ddiweddar mae’r Tîm Hawliadau yn Admiral wedi codi £1,570 ar ôl penderfynu eu bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl i’w helusen y GIG leol y Nadolig hwn a helpu pobl mewn angen.

Dywedodd Michelle Deen a Laura Smith, o’r tîm Hawliadau, “Yma yn Admiral, roedden ni’n meddwl, gan fod eleni wedi bod yn flwyddyn galed i gymaint o bobl, roedden ni eisiau helpu. Rydyn ni’n teimlo’n lwcus ein bod ni wedi gallu gweithio drwy gydol y cyfnod anodd hwn. Felly, rydyn ni’n hybu gwir ystyr y Nadolig drwy roi i bobl llai ffodus na ni yn ein cymuned leol. Felly fe wnaethom ddewis yr Elusen Iechyd, ac yn benodol y Gwasanaethau i Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd drwy anfon talebau rhodd i deuluoedd sydd gwir mewn angen y Nadolig hwn.
Er mwyn codi arian i’r Elusen fe wnaethom drefnu nifer o ddigwyddiadau codi arian, gan gynnwys cyfnewid anrhegion Santa Cyfrinachol am gyfraniad i’r elusen. Yn ogystal â hynny fe wnaethom gynnal ocsiwn ar-lein, lle gallai cydweithwyr roi cynnig am amser o’r gwaith. Roedd hyn yn llwyddiant ysgubol a daeth â’r adran at ei gilydd mewn ffordd hwyliog yn ystod yr ŵyl, a chodi arian yr un pryd. Rydyn ni wrth ein bodd ein bod wedi llwyddo i godi £1,570.”
Dywedodd Rachel Raymond, Rheolwr Iechyd Dros Dro Flying Start, “Hoffem ddweud diolch anferthol wrth dîm Hawliadau Admiral am y gwaith o godi arian a chyfnewid anrhegion Santa Cyfrinachol eleni er mwyn rhoi talebau i nifer o deuluoedd ar draws Caerdydd. Mae’r Ymwelwyr Iechyd wedi rhannu’r talebau i deuluoedd â phlant bach sydd fwyaf agored i niwed, ac maent wedi rhannu ychydig o hapusrwyddd yn ystod y cyfnod digynsail hwn. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich holl gefnogaeth a haelioni a hoffem ddymuno Nadolig Llawen a blwyddyn newydd lewyrchus i bawb.”
Gallwch gefnogi’r tîm o hyd drwy fynd i https://www.justgiving.com/fundraising/claimscomplaintschristmascampaign
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a sut gallwch chi helpu i gefnogi eich elusen y GIG leol, cysylltwch â ni drwy neges e-bost; Fundraising.cav@wales.nhs.uk