Mae Tîm Profiad y Claf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn gofyn i chi fynd gam ymhellach a chymryd rhan yn yr her 100 yn ystod mis Chwefror 2022.
Mae gan bawb fwriadau da ar ddechrau blwyddyn newydd, i fod yn fwy ffit, yn iachach ac yn fwy actif. Meddyliodd y Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Jordann Rowley am y syniad o annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan, naill ai ar eu pen eu hunain neu fel rhan o dîm, i ymgymryd â’r her 100 i godi arian er mwyn gwneud gwahaniaeth i gleifion ar y wardiau.
A wnewch chi’r canlynol:
- Cerdded 100 milltir
- Cyflawni her 100 milltir o gamau
- Dringo 100 rhes o risiau
- Seiclo 100 milltir
- Rhedeg 100 milltir
- Nofio 100 milltir
- Gwneud 100 lap o’ch gardd
- Gwneud 100 o unrhyw weithgaredd o’ch dewis
Dywedodd Jordann: “Rwyf wedi’i chael yn anodd cymell fy hun i fod yn fwy actif, felly ar ddiwedd mis Ionawr iach a chan edrych ymlaen at fis Chwefror iach, credais y byddai her a ffocws yn fy helpu i, ac eraill gobeithio, i ddechrau symud. Credais y byddai codi ychydig o arian er mwyn gwneud gwahaniaeth yn syniad da.
“Drwy gydol mis Chwefror, rwy’n benderfynol o gerdded/rhedeg/seiclo neu nofio 100 milltir i godi arian ar gyfer Tîm Profiad y Claf.
“Mae Suzie a Jayne yn fy nhîm yn mynd i fod yn cymryd rhan hefyd, a byddem wrth ein bodd pe gallech ymuno â ni neu helpu i ledaenu’r gair er mwyn sicrhau bod hyn yn ymdrech tîm. Byddai’n wych petaem yn gallu cael pawb i gymryd rhan ar draws y Bwrdd Iechyd, gan annog cydweithwyr, a hyd yn oed teulu a ffrindiau i ymgymryd â’r her, neu yn syml i ledaenu’r gair a chael pobl i gyfrannu arian.
“Bydd unrhyw arian a gaiff ei gyfrannu at y digwyddiad hwn yn mynd tuag at Dîm Profiad y Claf er mwyn iddynt brynu eitemau a gweithgareddau ar gyfer eich wardiau, i gefnogi ein gwirfoddolwyr a’n gweithwyr cymorth Profiad y Claf yn eu hymdrechion i ymgysylltu â chleifion, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty ers amser hir, nad oes ganddynt unrhyw un i’w cefnogi.”
Gall unigolion gyfrannu unrhyw swm er mwyn cymryd rhan, neu gall unigolion a thimau osod targed tîm ar eu tudalen codi arian.
I gymryd rhan, anfonwch e-bost at pe.cav@wales.nhs.uk a gadewch i ni wybod beth fyddwch chi’n ei wneud ar gyfer eich her 100. Gallwch greu tudalen codi arian ar https://www.justgiving.com/campaign/spreadthelovetopatients a chlicio ar “Start Fundraising” i greu eich tudalen eich hun neu dudalen ar gyfer y tîm.
I wneud cyfraniad ar gyfer yr her 100, ewch i: https://www.justgiving.com/campaign/spreadthelovetopatients
Dilynwch @Cav_PETeam ar Twitter, tagiwch ni yn eich gweithgareddau a defnyddiwch yr hashnod #CAVPE100 a byddwn yn aildrydaru er mwyn gadael i bawb wybod beth rydych yn ei wneud ac i’ch cefnogi ar hyd y ffordd.
Caiff y gweithgarwch hwn ei gefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.