Rhoi

Mae Gerry Stacey wedi bod yn codi arian ers amser hir ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron, ac wedi bod yn ein cefnogi ers 2017 ar ôl i’w wraig, Maxene, gael diagnosis o ganser y fron yn 2016.

Er mwyn parhau i gefnogi ein Hapêl Canolfan y Fron, mae Gerry wedi bod yn cymryd rhan yn Her Seiclo Elusennol 54321 Cymru, a gwblhaodd eto ym mis Mai eleni, yn dilyn dwy flynedd o ohirio’r digwyddiad yn sgil COVID-19.

Y tro hwn bu cyfanswm o 40 o feicwyr yn codi arian ar gyfer 27 o elusennau gwahanol, dros benwythnos gŵyl y banc ym mis Mai. Bu’r tîm yn seiclo 300km drwy rannau o’r Iseldiroedd a Gwlad Belg a dewisodd yr holl seiclwyr elusen / achos da yr oeddent am ei gefnogi a chawsant eu gwobrwyo gydag arian cyfatebol gan noddwyr y digwyddiad – Tiny Rebel Ltd a Whitehead Building Services.

Gyda’r arian cyfatebol hwn yn ychwanegol, eleni cododd Gerry dros £1,300 ar gyfer ein Hapêl Canolfan y Fron – gan ddod â chyfanswm ei swm codi arian hyd yma i dros £5,000.

Dywedodd Sue Dickson-Davies, Uwch Swyddog Codwr Arian ac arweinydd Apêl Canolfan y Fron, “Hoffem ddiolch unwaith eto i Gerry am ei gefnogaeth barhaus i’n Hapêl. Rydym mor ffodus i gael cefnogaeth anhygoel i’n Hapêl Canolfan y Fron, ac rydym bob amser mor ddiolchgar i’r rhai sy’n dewis ein cefnogi flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ymgyrch barhaus Gerry i godi arian wir yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’n holl gleifion yng Nghanolfan y Fron, Ysbyty Athrofaol Llandochau.

“Diolch hefyd i noddwyr y digwyddiad, Tiny Rebel Ltd a Whitehead Building Services sydd unwaith eto wedi rhoi £500 mewn arian cyfatebol tuag at swm codi arian anhygoel Gerry.”

I gael rhagor o wybodaeth am ein Hapêl Canolfan y Fron a’r hyn y gall yr arian a godir ei gefnogi, neu i gael gwybodaeth am unrhyw un o’n hapeliadau, neu i godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.