Rhoi

Mae 2024 yn Flwyddyn Naid! Gan fod gennym un diwrnod ychwanegol cyfan, beth am ei ddefnyddio i wneud rhywbeth da?

Mae’r Elusen Iechyd yn cefnogi’r holl wardiau, adrannau, ysbytai, gwasanaethau cymunedol ac ardaloedd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg.

Beth am osod targed i chi’ch hun i godi £100 y flwyddyn naid hon! Bydd eich rhoddion yn cefnogi gwaith a phrosiectau yn ychwanegol at yr hyn y mae cyllid arferol y GIG yn ei ddarparu. Mae darparu ymchwil ac offer arloesol yn ganolog i’n rôl elusennol.

Dyma 29 syniad llawn hwyl am sut i godi arian i ddangos sut y gallech chi wneud rhywbeth ystyrlon a chofiadwy ar 29 Chwefror, drwy ddefnyddio eich diwrnod ychwanegol i’n helpu ni i gyrraedd ein targed.

1. Beth am drefnu Gwerthiant Cacennau? Trît canol wythnos i’r dosbarth neu’r swyddfa.

2. Gofynnwch i’ch cyflogwr am drefnu raffl i ennill diwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol a throwch y diwrnod ychwanegol yn ddiwrnod bonws o wyliau i un cydweithiwr lwcus.

3. Trefnwch sioe ffasiwn — mae’r wisg orau yn ennill!

4. Mae cwisiau bob amser yn llawer o hwyl; dewiswch eich lleoliad, penderfynwch ar y thema a chodwch ffi fynediad. Gallech chi hyd yn oed gynnig gwobr i’r tîm buddugol.

5. Mwynhewch Noson Gemau gyda ffrindiau a theulu a chodwch ffi fynediad fach ar gyfer pob gêm.

6. Cyflawnwch her gerdded 29 milltir ar eich pen eich hun neu fel grŵp! Milltir y dydd ar gyfer mis Chwefror yn gyfangwbl.

7. Dewiswch eich hoff gamp; dewiswch unrhyw weithgaredd a chael pobl i dalu ffi fynediad i gymryd rhan. O bêl-droed 5 bob ochr i tenis i glwb rhedeg.

8. Plymio o’r awyr! Dychmygwch deimlo’r rhuthr wrth i chi gwympo’n rhydd drwy’r awyr ar 125mya o 10,000 troedfedd uwchben y ddaear — mae’n brofiad bythgofiadwy!

9. Beth am fwynhau prynhawn heddychlon drwy drefnu Cyfnod o Dawelwch Noddedig? Yn y gwaith, yn yr ystafell ddosbarth neu gartref.

10. Oes gennych lwyth o lyfrau yn casglu llwch? Defnyddiwch ap gwerthu llyfrau i’w gwerthu a rhowch i ni yr arian a godwyd.

11. Rhowch diwb Smarties gwag i ffrindiau, teulu neu gydweithwyr a gofynnwch iddyn nhw ei lenwi â darnau arian 20c neu (gwell fyth) darnau arian £1. Rhowch y Smarties rydych chi wedi’u gwagio mewn jar a threfnwch gystadleuaeth ‘Dyfalu Faint o Smarties’ sydd yn y jar.

12. Pizza Diwrnod Tâl — gofynnwch i’ch cyflogwr dalu am y pizza ac yna gwerthu’r sleisys i gydweithwyr am rodd?

13. Byddwch yn actif! Os oes gennych fynediad i barc lleol neu fan agored, gallech noddi cydweithwyr, staff neu ddisgyblion am nifer y lapiau y maent yn eu cwblhau.

14. Pwy a ŵyr pa dalentau cyfrinachol sydd gan eich cydweithwyr neu’ch disgyblion? Trefnwch Sioe Dalent amser cinio a thalu i wylio’r hwyl!

15. Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae’n bosib nad yw’ch car yn edrych ar ei orau. Ewch i nôl y sbwng a’r bwced ddŵr a chynigiwch wasanaeth Golchi Ceir yn y maes parcio; a’r cyfan am rodd wrth gwrs!

16. Wyddoch chi fod eich bos yn arfer bod yn fabi bach annwyl yr olwg?! Gofynnwch i’ch cydweithwyr ddod â llun ohonynt yn fabi i’r gwaith a rhowch nhw i gyd ar fwrdd neu ar ddalen i bawb eu gweld. Codwch ffi i gymryd rhan a cheisiwch gyfateb y lluniau â’ch cydweithwyr.

17. Cynhaliwch Arwerthiant Garej. Wrth i’r gwanwyn agosáu, beth am glirio’r hen i wneud lle i’r newydd, gydag arwerthiant cist car neu arwerthiant garej. Gallech chi hyd yn oed ymuno â’ch cymdogion a’i wneud yn ddigwyddiad i’r stryd cyfan.

18. Sioe ffasiwn swyddfa! Gofynnwch i’ch tîm ddod i mewn i’r gwaith yn gwisgo eu gwisg orau a phleidleisiwch dros enillydd. Casglwch rodd ar gyfer pob person sy’n cymryd rhan.

19. Cerdded Cŵn – ffordd hawdd o godi arian i’r rhai sy’n caru eu ffrindiau bach blewog. Cynigiwch wasanaeth cerdded cŵn i ffrindiau a chymdogion y Diwrnod Naid hwn, am rodd fach.

20. Beth allai fod yn fwy pleserus na digwyddiad te prynhawn? Ewch ati i bobi, gwneud brechdanau a phaned o de. Gyda’ch ffrindiau, teulu neu grŵp cymunedol, cynhaliwch de parti a gofynnwch am rodd i fynychu.

21. Cynigiwch eich amser i siopwyr archfarchnadoedd ar ddydd Sadwrn. Trwy drefniant gyda’ch archfarchnad leol, gofynnwch i gwsmeriaid am rodd yn gyfnewid am eich help i bacio eu bagiau yn gyflym.

22. Trefnwch jar arian yn y gwaith neu gartref a phob tro y bydd rhywun yn rhegi neu’n chwibanu neu’n cwyno… bydd £1 yn mynd yn y jar.

23. Gallai dosbarth eich ysgol gymryd rhan mewn Her Darllen y Diwrnod Naid hwn. Diffoddwch eich gemau fideo a cheisiwch weld faint o lyfrau y gallwch eu darllen a chael eich noddi i gymryd rhan.

24. Mae sesiwn Nofio Noddedig dan do yn opsiwn codi arian gwych ar gyfer tywydd anrhagweladwy mis Chwefror.

25. Cynhaliwch Brynhawn Crefft; ewch i nôl papur, glud, siswrn a glitter a byddwch yn greadigol! Mae yna lawer o adnoddau ar-lein os oes angen ysbrydoliaeth arnoch chi. Gofynnwch am roddion i fynychu.

26. Cynhaliwch barti a chodwch ffi fynediad.

27. Mae gêm o Bingo yn llawer o hwyl a gellir ei chwarae yn yr ystafell ddosbarth neu’r swyddfa. Gellir ei haddasu i gyd-fynd â gwahanol themâu a’i chwarae mewn un sesiwn neu gallwch alw rhifau ar hap drwy gydol y dydd. Talwch i chwarae a chynnig gwobr i’r person cyntaf i alw ‘tŷ’!

28. Trefnwch Siop – beth sydd ei angen yn eich ysgol neu’ch swyddfa? Prynwch a gwerthwch am rodd deg fel bod eich costau yn cael eu talu, a’ch bod yn gwneud elw y gallwch ei roi fel rhodd.

29. Dangoswch ffilm amser cinio; codwch ffi fach a chynnig popcorn i’r rhai a fydd eisiau dod draw i wylio.

Mae miloedd o gleifion mewnol yn derbyn gofal ysbyty bob dydd. Gadewch i ni helpu i wneud gwahaniaeth i’n GIG yng Nghaerdydd a’r Fro y Flwyddyn Naid hon gyda’n gilydd.

Os oes gennych chi syniad eisoes am sut yr hoffech godi arian, ffoniwch neu e-bostiwch ni! Byddem wrth ein bodd yn gallu eich cefnogi chi a darparu unrhyw gymorth a allwn. Cysylltwch â ni yma.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.