Rhoi

Bydd Dylan Llewellyn, sy’n 12 oed, yn cerdded 100,000 o gamau ar ddydd Gwener, 27 Awst – anhygoel! Bydd yn codi arian tuag at y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn Ysbyty Rookwood, am y cymorth a gafodd ei Wncl Richard ar ôl colli ei goes yn gynharach eleni.

Dywedodd Dylan: “Ar Noswyl Nadolig y llynedd, cafodd fy Anti Agnes a fy Wncl Richard, sy’n annwyl iawn i mi, wybod fod ganddynt COVID-19. Ar 11 Ionawr eleni, yn drist iawn bu farw fy Anti Agnes tra bod fy Wncl Richard yn gorfod cael torri ei goes ar yr un pryd, a hyn oll o ganlyniad i COVID-19.

Rydw i’n mynd i geisio cerdded 100,000 o gamau mewn UN diwrnod ar ddydd Gwener, 27 Awst 2021 i godi arian tuag at un o’r sefydliadau anhygoel sydd wedi helpu fy Wncl Richard, sef y Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn Ysbyty Rookwood.

Ie wir – 100,000 o gamau mewn diwrnod!!! Gobeithio y gallwch chi fy nghefnogi a fy noddi oherwydd hoffwn i allu gwneud gwahaniaeth i’r rhai hynny sydd ei angen.”

Mae’r daith sydd wedi’i chynllunio oddeutu 35 milltir o hyd a bydd yn cymryd dros 12 awr i Dylan ei chwblhau, felly cefnogwch ef a’i Wncl Richard drwy gyfrannu ar ei dudalen JustGiving: https://www.justgiving.com/fundraising/Dylis28

Bydd Dylan hefyd yn rhannu diweddariadau rheolaidd ar ei dudalen Instagram (Dylis28), felly dilynwch ei daith neu cysylltwch â Dylan os hoffech chi ymuno ag ef yn ystod ei gamp anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.