Rhoi

Bob wythnos, ym mhob tywydd, mae tîm Tyfu’n Dda yn croesawu pobl sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu gorfforol, sy’n teimlo’n ynysig neu wedi eu llethu gan fywyd. Ar draws pedair gardd gymunedol therapiwtig Tyfu Caerdydd yn Nhrelái, Treganna, Glan yr Afon a Grangetown, ardaloedd lle gall disgwyliad oes fod 17 mlynedd yn is nag yng ngogledd Caerdydd, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd. 

Yn aml, mae pobl yn cyrraedd yn teimlo ar goll neu’n ansicr ble i droi.   
Maen nhw’n gadael yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gweld a’u clywed, yn hyderus ac yn abl. 

Yn Tyfu’n Dda, mae garddio cymunedol yn llawer mwy na phlannu hadau. Mae’n fan lle gall pobl wneud y canlynol: 

  • Cysylltu â natur 
  • Tyfu a gofalu am blanhigion 
  • Coginio a rhannu bwyd 
  • Creu celf a chrefft 
  • Cefnogi bywyd gwyllt 
  • Ac, yn bwysicaf oll, rhannu amser, sgwrsio a dangos tosturi 

Yma, wrth i bobl ymgolli yn yr ardd, maen nhw’n dod o hyd iddyn nhw eu hunain eto. 

Drwy gyfrannu heddiw, gallwch chi roi’r lle, y gefnogaeth a’r cysylltiad sydd eu hangen ar rywun i ailadeiladu eu lles. 

Gallai eich rhodd ddarparu: 

Does dim ots am y swm, mae eich caredigrwydd yn tyfu ymhell y tu hwnt i gatiau’r ardd. 

Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn barhau i gynnig yr achubiaeth hon i’r rhai sydd ei hangen fwyaf, yma yn ein cymunedau yng Nghaerdydd. 

Cyfrannu heddiw. Tyfu gobaith. Newid bywydau. 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.