Mae Tîm Codi Arian y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc wedi plymio o’r awyr o’r diwedd, ar ôl disgwyl yn hir! Ar ôl misoedd o dywydd ansefydlog, o’r diwedd fe lwyddodd y grŵp i hedfan drwy’r awyr, gan godi arian ar gyfer y Bwrdd Ieuenctid a phlant ar draws y Gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol.
Bu Rachel Raymond, Uwch Nyrs ar gyfer y timau Ymwelwyr Iechyd yng Nghaerdydd a’r Fro ac un sy’n mwynhau gweithgareddau llawn adrenalin, yn arwain y tîm i gwblhau eu her ym Maes Awyr Abertawe ddydd Sadwrn 2 Mawrth. Cafodd Rachel gwmni Ceri Lovell, Uwch Nyrs ar gyfer CAHMS, Rhys Kirby, ysgrifennydd yn adran weinyddol y tîm Plant sy’n Derbyn Gofal, Bethan Cordery, aelod o’r Bwrdd Ieuenctid, a Paula Davies, Nyrs Arweiniol ar gyfer y Gwasanaethau Iechyd Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd.
Mae’r tîm wedi bod yn codi arian i wireddu’r syniad anhygoel o ‘focsys cysur’. Mae’r grŵp o blant a phobl ifanc sy’n gwirfoddoli gyda’r Bwrdd Iechyd eisiau gwneud newidiadau cadarnhaol i blant a phobl ifanc sy’n cael eu derbyn i ysbytai ar draws BIPCAF. Maent yn arbennig o awyddus i ddarparu rhywbeth i’r plant hynny sy’n canfod eu hunain mewn ardaloedd i oedolion, fel yr adran achosion brys neu ar wardiau i oedolion.
Byddai’r ‘bocsys cysur’ yn cynnwys eitemau i wella amser y plant yn yr ysbyty. Dewiswyd yr eitemau gan bobl ifanc a byddent yn cynnwys clustffonau, past dannedd a brwsh dannedd, tegan wedi’i stwffio, crys-t sbâr, llyfr lliwio ymwybyddiaeth ofalgar, pensiliau a balm gwefusau.
Hyd yn hyn, mae’r tîm anhygoel yma wedi codi swm anhygoel o £3,578.06 (£2,997.81 + £580.25 GiftAid) tuag at yr achos, sydd ymhell dros eu targed o £2,000 – llongyfarchiadau i’r plymwyr awyr dewr! Diolch enfawr i’r tîm am eu hymroddiad diwyro i gefnogi’r Bwrdd Ieuenctid a phlant ar draws y Gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol.
Mae amser o hyd i gyfrannu at achos gwych y grŵp dewr hwn, ewch i’w tudalen JustGiving er mwyn eu cefnogi. Wedi cael eich ysbrydoli i herio eich hun? Cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk os hoffech godi arian ar gyfer ward neu adran sydd wedi eich helpu chi neu aelod o’ch teulu