Dros benwythnos hir gŵyl y banc, dathlodd y wlad Jiwbilî Platinwm y Frenhines, a ninnau hefyd!
I nodi’r achlysur arbennig hwn, anfonwyd 80 o flychau Jiwbilî i’n wardiau cleifion mewnol ar draws safleoedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedden nhw’n cynnwys balŵns, baneri, pecynnau gweithgaredd gan Mental Health Matters a’n Cystadleuaeth Cacennau Platinwm, toriad cardfwrdd o’r Frenhines, a chacen a roddwyd gan Memory Lane Cakes, Tesco, a Morrisons.
Rhwng 2 a 5 Mehefin, cawsom lwyth o luniau gan gleifion a staff yn eu dangos yn mwynhau’r dathliadau. Rydym mor falch ein bod wedi gallu hybu morâl cleifion a staff ac annog iechyd meddwl a lles cadarnhaol gyda’n blychau Jiwbilî. Gwnaeth llawer o wardiau ehangu ar ein digwyddiad Te Mawr y Jiwbilî a threfnu bwffe mawr i gyd-fynd â’r addurniadau yr oeddem wedi’u dosbarthu. Roedden nhw i gyd yn edrych yn hollol flasus!
Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’n staff a weithiodd yn ddiflino i ofalu am ein cleifion dros y penwythnos, ac a helpodd i drefnu ychydig ddyddiau gwych o ddathlu Jiwbilî Platinwm Ei Mawrhydi’r Frenhines.