Diolch o galon i Steven Robson, sydd hefyd yn cael ei alw’n Jean Jacques Smoothie, a fu’n ffrydio Setiau DJ yn fyw yn ystod y cyfyngiadau symud yn 2020 a 2021, er mwyn helpu staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ystod pandemig COVID-19!

Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf ym mis Mawrth 2020, gofynodd Steven i’w ffrind, Uwch Nyrs a oedd yn gweithio ar ward COVID-19, beth oedd y peth mwyaf ymarferol y gallai annog pobl i’w wneud i’w helpu yn ei gwaith bob dydd. Yr ateb oedd y byddai cleifion yn gwerthfawrogi cael nwyddau ymmolchi, gan nad oedd ymwelwyr yn cael mynd i’r wardiau. Byddai hynny’n rhoi hwb bach iddynt.
Felly, penderfynodd Steven gefnogi Tîm Profiad y Cleifion drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, sy’n helpu i roi gwên ar wynebau cleifion drwy roi eitemau fel nwyddau ymolchi, dillad nos, ac ati iddynt yn ystod y cynfod anodd hwn. Drwy ffrydio dwy set DJ yn fyw yn ystod y cyfyngiadau symud yn 2020 a 2021, llwyddodd Steven i godi £1,375.11!
Rydym ni yma yn Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn gwerthfawrogi’r caredigrwydd yma’n fawr, ac ar ran holl dimau’r GIG yma yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, hoffem ddiolch o galon i Steven am ei garedigrwydd a’i haelioni unwaith eto.
Gallwch chi eu helpu i godi mwy fyth o arian, drwy gyfrannu ar dudalennau Steven; https://www.justgiving.com/fundraising/Smoothie-foam-party
https://www.justgiving.com/fundraising/smoothies-apres-ski-party
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:
www.mixcloud.com/Jeanjacquessmoothie
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi helpu Timau rheng flaen y GIG yn ystod y pandemig hwn, ewch i wefan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro #SpreadTheLove; https://healthcharity.wales/how-to-help-during-covid-19/, anfonwch e-bost atom; Fundraising.cav@wales.nhs.uk neu gallwch roi arian yma; https://www.justgiving.com/campaign/spreadthelove
Mae staff rheng flaen y GIG yn mynd i’r gwaith i’n cadw ni a’n hanwyliaid yn ddiogel. Y peth gorau y gallwn ni ei wneud nawr i ddiolch iddynt yw dilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.