Donate

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yw ffocws cyfres ddogfen chwe rhan y BBC, Saving Lives in Cardiff — ac mae’r bennod gyntaf yn cael ei darlledu ddydd Mawrth, 20 Awst. 

Wedi’i chynhyrchu gan Label1 ar gyfer BBC One Wales a BBC Two, cafodd Saving Lives in Cardiff ei ffilmio dros sawl mis yn 2023 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau.  

Cafodd y rhaglen fynediad arbennig i bob un o’r tri ysbyty ac mae’n dilyn llawfeddygon anhygoel o’r radd flaenaf a’u timau amlddisgyblaethol wrth iddynt geisio trawsnewid bywydau cleifion yn erbyn cefndir yr amseroedd aros hiraf mewn hanes. 

Dros chwe phennod awr o hyd, bydd Saving Lives in Cardiff yn dangos i’r cyhoedd y penderfyniadau anodd y mae clinigwyr yn eu gwneud bob dydd wrth iddynt ddewis pwy i’w drin nesaf, ac yn archwilio teithiau emosiynol cleifion wrth iddynt gael llawdriniaethau sy’n newid bywyd.  

Mae pob llawfeddyg yn cynnig cipolwg prin ar eu bywydau rhyfeddol a heriol o ddydd i ddydd wrth iddynt wneud llawdriniaeth ar diwmorau prin yn yr ymennydd, darparu triniaeth achub bywyd i dripled 12 wythnos oed, rhoi mwy o amser gyda’i theulu i fam sydd â chanser na ellir ei wella, ac adfer golwg dioddefwr ymosodiad.

Dywedodd Suzanne Rankin, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro: “Rwy’n hynod falch o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gefnogi cleifion nid yn unig yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ond ledled Cymru gyfan.  

“Mae cydweithwyr yn gwneud gwaith anodd bob dydd ac mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn fwy heriol nag erioed. Fodd bynnag bydd y gyfres yn rhoi cyfle i gleifion a’u hanwyliaid weld rhai o’r penderfyniadau anodd rydym yn eu gwneud yn ddyddiol yn ogystal â gwaith clinigol ac arbenigedd gwych y timau amlddisgyblaethol.” 

Wyddoch chi, fel elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae’r Elusen Iechyd yn cefnogi’r holl wardiau, adrannau, ysbytai, gwasanaethau cymunedol a meysydd ymchwil ledled Caerdydd a Bro Morgannwg? Os hoffech chi gyfrannu, ewch i healthcharity.wales/donate

Mae Saving Lives in Cardiff yn cael ei ddarlledu ar BBC One Wales a BBC Two am 9pm ar ddydd Mawrth. Wedi colli pennod? Daliwch i fyny ar BBC iPlayer.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.