10 dringfa. 24 awr. 1 achos.
Bydd yr Hyfforddai Rheoli Graddedig, Bevan Howells, yn dringo Pen y Fan 10 gwaith mewn 24 awr ar 10 Mai ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.
Bydd yn ymuno â thîm o saith cefnogwr arall a fydd yn ymgymryd â her Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Bydd y ddringfa ei hun yn digwydd yn ardal hyfryd Bannau Brycheiniog, a bydd yn dechrau yn gynnar gyda’r nos ar y 10fed. I roi anferthedd yr her mewn persbectif, mae Pen y Fan yn 2,907 troedfedd, ac mae Everest yn 29,029 troedfedd; felly mae cwblhau her 10YFan fel concro Everest!
“Rwy’n eithaf actif yn barod. Rwy’n beicio, rwy’n nofio, ac rwy’n hyfforddi 15-20 awr yr wythnos,” meddai Bevan, a fydd hefyd yn gwneud IronMan Cymru eleni. “Rwy’n gobeithio y byddaf yn llawn cymhelliant a chyffro a bydd gen i wên ar fy wyneb; yn enwedig yn ystod y 10fed ddringfa.”
Yn blentyn, roedd Bevan yn glaf yn Ysbyty Plant Cymru. Dywedodd, “Roedd gen i glot ar yr ymennydd ac roeddwn yn yr ysbyty am chwe wythnos. Roedd y profiad hwnnw gyda’r nyrsys a’r meddygon yn anhygoel a dyna pam rwyf am roi rhywbeth yn ôl. Mae fy nheulu wedi gweithio yn y GIG ac rwyf wedi gweld y gwaith gwych y mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ei wneud i gleifion a staff.” Os hoffech chi gefnogi Bevan ar ei daith codi arian, ewch i’w dudalen JustGiving yma.
