Mae mam i dri o blant sydd wedi curo canser deirgwaith wedi canu clodydd y staff ysbyty “anhygoel” fu’n gofalu amdani.
Cafodd Michaela Virgill, o’r Barri, ddiagnosis o ganser y fron am y tro cyntaf yn 2015 ar ôl darganfod lwmp yn ei bron dde.
Cynhaliwyd dau lwmpectomi ac un mastectomi gan yr Arweinydd Clinigol Eleri Davies yng Nghanolfan y Fron ym Mhrifysgol Llandochau, ynghyd â chemotherapi. Yn ddiweddarach, cafodd Michaela adluniad DIEP ar ei bron dde, a gwnaed y fron ar y chwith yn llai i sicrhau bod y ddwy yn gymesur.
Ar ôl pum mlynedd yn rhydd o’r afiechyd, datgelodd mamogram dilynol yn 2020 lwmp newydd ar ei bron chwith, gan arwain at fastectomi arall.
Ond roedd mwy i ddilyn pan ddaeth y ddynes 56 oed o hyd i lwmp newydd yn ei meinwe creithiau ar y chwith, a dau nod lymff canseraidd yn ei chesail, dim ond dair blynedd yn ddiweddarach yn 2023. Cafodd chwe mis o gemotherapi, llawdriniaeth yn cynnwys lwmpectomi ynghyd â Chliriad Nodau Cesail (ANC) llawn, 15 sesiwn o radiotherapi, a 18 pigiad o driniaeth Phesgo i atal hormon yn ei math hi o ganser y fron.
Ar ôl 18 mis anodd, mae Michaela wedi gorffen ei thriniaeth o’r diwedd ac wedi cael gwybod ei bod yn glir o’r canser. Ar hyn o bryd mae hi’n cael treial geneteg i wirio am y genyn BRACA1 sy’n ymchwilio i weld a yw ei chanser yn etifeddol. Dywedodd Michaela, “Rwy’n gobeithio na fydd yn rhaid i mi fynd drwy hyn eto, ac na fydd fy mhlant ychwaith”.
“Trwy gydol fy siwrnai canser y fron, mae Canolfan y Fron yn Ysbyty Athrofaol Llandochau wedi bod yn anhygoel – maen nhw wedi bod yn gefnogaeth i mi. Dydw i ddim yn gwybod ble byddwn i wedi bod hebddyn nhw trwy fy wyth mlynedd o ganser y fron. Dw i eisiau dweud ‘diolch’ iddyn nhw i gyd.”
Yn ystod ei thriniaeth, gwnaeth Michaela nifer o weithgareddau codi arian mewn ymgais i helpu llawer o elusennau canser, o Muddy Runs i gerdded pedair rhaeadr Cymru.
Roedd hi hyd yn oed wedi cofrestru ar gyfer Mighty Hike Dyffryn Gwy gyda’i merch, ond fe’i rhwystrwyd rhag cymryd rhan gan ei thrydydd diagnosis canser. Er na allai Michaela gymryd rhan mwyach, roedd ei gŵr yn fwy na pharod i gymryd ei lle.
Fel rhan o Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, mae Apêl Canolfan y Fron yn ariannu nifer o ddosbarthiadau a grwpiau adsefydlu ar gyfer ei holl gleifion, gan gynnwys Michaela. Dros y blynyddoedd, mae hi wedi ymuno â grŵp ffitrwydd Pink Ribbon, cymuned ar-lein a sefydlwyd i gleifion Canolfan y Fron gael sgwrsio â’i gilydd. Maent hefyd yn cyfarfod unwaith y mis ar gyfer taith gerdded a drefnir gan Uwch Ffisiotherapydd Canolfan y Fron, Victoria Collins.
Yn fwy diweddar, mae Michaela wedi ymuno â dosbarth Erobeg Dŵr rheolaidd a dosbarth cylchol wedi’i deilwra ar gyfer cleifion Canolfan y Fron yn Splash Central Caerdydd. Ariennir y sesiynau hyn, ynghyd â dosbarthiadau pilates a yoga, gan roddion hael i Apêl Canolfan y Fron.
Ar hyd ei blynyddoedd fel claf, mae Michaela wedi mynychu llawer o ddigwyddiadau i gefnogi Apêl Canolfan y Fron. O gymryd rhan yn y digwyddiad ‘Cerdded 10 milltir i ddathlu 10 mlynedd o Apêl Canolfan y Fron’, i fwynhau cacen a phaned o de mewn digwyddiad te prynhawn pwrpasol. Mae ei chefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy.
Yn ddiweddar, mae Michaela wedi penderfynu cymryd ymddeoliad cynnar er mwyn ceisio byw bywyd i’r eithaf – yn enwedig nawr bod ganddi wyrion ac wyresau. Gyda’i rhyddid newydd, mae’n gobeithio codi mwy o arian ar gyfer Apêl Canolfan y Fron i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf fynediad at fwy o ymchwil.
Er gwaethaf yr holl bryder a straen y mae Michaela wedi’i ddioddef, dywedodd ei bod yn parhau i fod yn hynod optimistaidd ac yn llawn bywyd.
Ar 13 Hydref (2024) bydd yr Arweinydd Clinigol Eleri Davies yn rhedeg Marathon Chicago i gefnogi ei holl gleifion yng Nghanolfan y Fron. Os gallwch chi helpu Eleri i gyrraedd ei tharged o £10,000, ewch i’w thudalen JustGiving.