Rhoi

Roedd y bobl ifanc a fu’n codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn ystod y pandemig wedi gwneud byd o wahaniaeth, diolch i’w haelioni a’u caredigrwydd.

Clywodd yr Elusen Iechyd straeon bendigedig am sut roedd plant a phobl ifanc wedi eillio eu gwallt i godi arian, wedi cael eu noddi i gadw’n dawel (er mawr lawenydd i’w rhieni!!), wedi gwerthu teganau, gwerthu llyfrau a chreu crefftau eu hunain i’w gwerthu ar stepen eu drws yn ystod y cyfyngiadau symud.

Casglwyd miloedd o bunnau i helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff mewn ysbytai – a hynny ar yr adeg pan oedd ei angen fwyaf. 

Dywedodd Simone Joslyn, Pennaeth y Celfyddydau ac Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro: “Hoffwn ddiolch i’r holl bobl ifanc ysbrydoledig sydd wedi codi arian i ni, am bopeth maent wedi’i wneud i helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff ledled Caerdydd a Bro Morgannwg – rydym wir yn gwerthfawrogi.”

Dyma ambell stori am rai o’r bobl ifanc ysbrydoledig hynny.

Amelie – Torri Gwallt

Roedd Amelie wedi bod yn holi ei mam, Rhiannon, am y Coronafeirws, ac roedd hi wedi aros gartref a chadw’n ddiogel er mwyn helpu i warchod y GIG a’r holl weithwyr allweddol.

Roedd Amelie yn dymuno gwneud rhywbeth i helpu i wneud gwahaniaeth, felly cafodd y syniad o dorri ei gwallt hir er mwyn codi arian i’r GIG.

Amber Dwyer – Pecynnau Gofal

Darparodd Amber hufen lleithio o ansawdd, weips wyneb, balm ar gyfer gwefusau ac eli ar gyfer y dwylo fel pecynnau gofal i staff gofal iechyd a oedd yn gorfod gwisgo masgiau a gogls drwy’r amser. Helpodd ei mam, Karen, sy’n Dechnegydd Ffisiotherapi, i ddosbarthu dros bedwar deg o becynnau i gydweithwyr a oedd yn gweithio ar wardiau Covid-19 ac Unedau Gofal Dwys.

Betsy Bodman – Gwerthu Teganau

Roedd Betsy wedi clirio ei thaganau a phenderfynodd eu gwerthu y tu allan i’w chartref i godi arian i’r GIG. Dosbarthodd daflenni yn hysbysebu’r digwyddiad i bob tŷ ar ei stryd a’r ardal gyfagos er mwyn i’r bobl a fyddai’n pasio heibio wrth fynd ar eu dro dyddiol alw draw i brynu tegan.

Cai Floyd – Her Beic Sbin

Heriodd Cai ei hun i fynd ar feic sbin a fyddai’n cyfateb i’r pellter rhwng y dref lle mae’n byw yn y Bont-Faen, Bro Morgannwg, ac Ysbyty Nightingale, Llundain – cyfanswm o 172 milltir/ 276 km. Llwyddodd Cai i gwblhau ei her, gan wrando ar y gân enwog ‘Eye of the Tiger’. Daeth y seren rygbi, Jamie Roberts, i weld Cai ar ôl iddo gwblhau ei her codi arian hefyd.

Daniel Rowlands – Beicio i Fyny’r Allt

Roedd Daniel yn dymuno cefnogi’r GIG felly penderfynodd ar her codi arian. Aeth Daniel ati i feicio i fyny Allt Rhiwbeina heb stopio wrth fynd i wneud ei ymarfer corff dyddiol. Llwyddodd Daniel i gwblhau’r her 2,893 metr mewn un tro.

Emily Chirighin – Her 177 Milltir

Cafodd Emily ei hysbrydoli gan arwyr codi arian fel y Capten Syr Tom Moore a Geriant Thomas. Penderfynodd herio ei hun i feicio ar hyd pellter a oedd yn cyfateb i’r pellter rhwng Ysbyty Gwynedd, Bangor ac Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, sef 177 o filltiroedd, a hynny mewn saith diwrnod. Cwblhaodd ei her gan feicio pellter a oedd yn cyfateb i farathon bron iawn, bob diwrnod.

‘Eseta Tapa’atoutai-Uhi – Her 2.6

Ai aderyn sydd yna? Ai awyren sydd yna? Na, yr arwres leol ‘Eseta Tapa’atoutai-Uhi sydd yna! ‘Estea.  Penderfynodd yr arwres hon y byddai’n cymryd rhan yn Her 2.6 drwy feicio i fyny ac i lawr ei lôn gefn 26 gwaith, sef pellter o 2.9 milltir, i gefnogi ei GIG lleol, a hynny tra roedd wedi gwisgo i fyny fel Wonder Woman.

Gyda chymorth ei chi, llwyddodd ‘Eseta i gwblhau’r her – mae hi wir yn Wonder Woman!

Finley Jack Gately – Eillio ei Ben

Roedd Finley Jack yn dymuno gwneud rhywbeth i’r GIG, felly gyda help ei dad a chlipwyr, eilliodd ei ben i godi arian.

Fletcher Jones – Eillio ei Ben

Roedd Fletcher yn dymuno rhoi rhywbeth yn ôl i staff anhygoel y GIG a oedd wedi bod yn gofalu amdano pan oedd yn cael sylw meddygol. Er mwyn codi arian i’w ysbytai lleol, penderfynodd Fletcher eillio ei ben gan godi arian a rhoi gwên ar sawl wyneb ar yr un pryd.

Academi Bêl-droed 3CDF – Bingo Ar-lein

Cododd yr Academi Bêl-droed arian i’r GIG drwy gynnal noson Bingo. Roedd y noson yn llwyddiannus dros ben, a llwyddwyd i godi llawer iawn o arian – gôl!!

Georgie a Frankie – Bandiau Lŵm

Roedd Georgie a Frankie yn dymuno helpu staff y GIG yn ystod argyfwng Covid-19 drwy godi arian. Penderfynodd entrepreneuriaid y dyfodol greu bandiau lŵm lliwgar a’u cynnig i bobl a oedd yn pasio heibio eu cartref, yn gyfnewid am rodd i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Jack Jordan – Her Mynydd y Garth

Roedd Jack yn dymuno cefnogi’r GIG yn ystod cyfnod anodd iawn. Mae mam Jack, Nicola, yn gweithio fel Ffisiotherapydd Cyhyrysgerbydol ac roedd wedi cael ei hadleoli i helpu staff ar wardiau Ysbyty Dewi Sant yn ystod pandemig Covid-19. Roedd ei fam wedi’i ysbrydoli, felly penderfynodd Jack fynd ati i gwblhau her codi arian i staff y GIG a oedd yn gweithio’n ddiflino yn gofalu am gleifion.

Mae Jack wrth ei fodd yn beicio, felly penderfynodd herio ei hun i feicio o’i gartref i fyny Mynydd y Garth, gyda’i dad, er mwyn mynegi ei ddiolch.

Max ac Alfie – Her Den Wyth Awr 

Wedi’u hysbrydoli gan straeon am Ddiwrnod VE a’r Ail Ryfel Byd, aeth Max ac Alfie ati i greu den yn ystafell wely Alfie a’i efaill Noah, yn debyg i loches rhag bomio. Yr her oedd aros yn y den am wyth awr, gan gael seibiant o bum munud bob awr er mwyn ymestyn eu coesau.

Gyda chefnogaeth eu brawd a’u chwaer, Noah a Chloe, a oedd wrth law gyda diodydd, bwyd a llawer o anogaeth, llwyddodd y ddau i gwblhau’r her! Yn ogystal, roeddent wedi rhagori ar eu targed codi arian!

Millie Catherall – Codi Arian yn y Gymuned

Gyda help ei mam, Jayne, llwyddodd Millie i ddod â’i chymdogion at ei gilydd yn ystod y pandemig, gyda chyfres o weithgareddau a digwyddiadau. Yn ogystal â mynd i siopa ar ran rhai o aelodau hynaf y stryd, mae’r ddwy wedi trefnu dathliad diwrnod VE, cystadleuaeth pobi gyda 23 yn cymryd rhan ac maent wedi bod yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar y stryd er mwyn helpu gydag ynysgirwydd cymdeithasol ac yn gwerthu llyfrau a theganau i godi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro.

Patrick John – Pryd ar Glud

Diolch i Patrick am goginio i’w gymdogion yn ystod y pandemig! Mae Patrick wrth ei fodd yn coginio, ac nid yn unig mae wedi bod yn gwneud prydau blasus i’w gymdogion (gan gynnwys ei bryd arbennig, Korma Cyw Iâr) mae hefyd wedi penderfynu codi arian i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ar yr un pryd.

Shannon Joslyn – Eillio ei Phen

Mae Shannon yn aelod o deulu estynedig Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, a chafodd ei hysbrydoli i godi arian drwy addo eillio ei phen petai’n codi £200 i gefnogi aelodau staff GIG Caerdydd a’r Fro. Llwyddodd Shannon i gasglu mwy na’r targed, ac mae ganddi wedd newydd erbyn hyn hefyd!

Twm Huw – Her 10×100

Roedd arwr codi arian y GIG, Capten Syr Tom Moore, wedi ysbrydoli ac ysgogi ‘Capten’ Twm i gefnogi’r GIG hefyd.

Er mwyn diolch i’r GIG, roedd Twm yn addo cwblhau her 10×100 am 10am ar ddydd Sul, 10 Mai. Roedd her Twm yn cynnwys; rhedeg o amgylch ei lôn gefn 100 o weithiau; 100 naid pogo; mynd i fyny ac i lawr y grisiau 100 o weithiau; cicio pêl droed i fyny 100 o weithiau heb adael iddi fynd ar y llawr; 100 naid seren; 100 ymwthiad; aros yn dawel am 100 o funudau; 100 naid wasg; 100 sgip a 100 eisteddiad.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.