
Yn ôl yn 2014, cafodd Richard Jones ddiagnosis o diwmor yr ymennydd, a chafodd gefnogaeth gan ward Gofal Uchel y Niwrowyddorau T4 yn ystod y profion yn ogystal â gofal ar ôl llawdriniaethau. Roedd hefyd yn yr ysbyty o ganlyniad i ddatblygu clot gwaed ar yr ysgyfaint a niwmonia ac mae wedi bod yn diolch i staff ward T4 am eu gwaith rhagorol a’r gefnogaeth anhygoel trwy gymryd rhan mewn heriau amrywiol i godi arian ar gyfer yr uned.
Bydd her nesaf Richard yn digwydd ar 18 Medi, a bydd yn cymryd rhan yn 50km Trekfest o amgylch Bannau Brycheiniog. Mae Trekfest yn her flynyddol lle gallwch benderfynu ar bellter o naill ai 25k neu 50k, i gerdded, jogio neu redeg trwy Fannau Brycheiniog. Pob lwc i Richard gyda’i gamp anhygoel, a diolch yn fawr iddo am ei gefnogaeth barhaus!
Er mwyn cyfrannu a chefnogi Richard, ewch i: https://www.justgiving.com/crowdfunding/richard-jones-709?utm_term=YMy67xjdg