“Wedi blino, eisiau bwyd, wedi blino’n emosiynol, wedi ymlâdd” – dyma sut roedd rhai o staff y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn disgrifio sut roeddent yn teimlo yn ystod y pandemig.
Er mwyn gwarchod lles a llesiant y bobl bwysicaf i ni – ein staff, sefydlwyd Hafanau i Staff mewn nifer o ysbytai ledled Caerdydd a Bro Morgannwg er mwyn cael rhywle iddynt ymlacio a chael eu nerth yn ôl.
Roedd Hafanau i Staff yn y safleoedd hyn:
- Ysbyty Athrofaol Llandochau
- Prifysgol Athrofaol Cymru
- Ysbyty Calon y Ddraig

Roedd yr Hafanu i Staff yn cael eu cefnogi diolch i roddion a ddaeth i law drwy Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Roedd y byrbrydau, y prydau, y diodydd a’r nwyddau hanfodol a oedd yn cael eu darparu i staff yn ystod shifftiau anodd yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr. Roedd nwyddau ymolchi’n cael eu dosbarthu er mwyn i staff gael cawod ar ôl bod yn gweithio am oriau mewn PPE llawn. Dosbarthwyd esgidiau, sanau a dillad i staff er mwyn iddynt deimlo’n fwy cyfforddus yn eu PPE. Roedd yr Hafanau i Staff yn cael eu defnyddio fel canolfannau i dderbyn a dosbarthu’r rhoddion hael dros ben gan aelodau’r cyhoedd, busnesau lleol a sefydliadau mawr.
Dosbarthwyd prydau a bocsys o ddanteithion i’r ysbytai llai a’r lleoliadau cymunedol o’r Hafanau i Staff, er mwyn i bawb – hyd yn oed y rhai a oedd ymhellach i ffwrdd oddi wrth y prif ysbytai – deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a bod rhywun yn gofalu amdanynt yn ystod y cyfnod eithriadol hwn.

Roedd y bwyd a oedd yn cael ei ddarparu i staff yn hollbwysig i lwyddiant yr Hafanau i Staff. Roedd miloedd o brydau’n cael eu gweini i staff diolch i ymgyrchoedd codi arian Bwydo’r GIG a #FeedTheHeath.

Roedd prydau blasus llawn maeth yn cael eu darparu bob dydd, drwy brosiect #FeedTheHeath, a oedd yn cynnwys rhoddion gan hyd at 25 o fwytai lleol a chyflenwyr bwyd, i gyd wedi’i gydlynu gan Kasim Ali o Waterloo Tea.
Dywedodd Kasim: “Fe fyddaf i’n cofio diwedd Mawrth a dechrau Ebrill 2020 am byth. Roedd pob un ohonom wedi cael cyfarwyddiadau i aros gartref ac roedd staff ysbytai’r GIG ar flaen y gad yn brwydro drosom ni. Pan wnes i alw draw yn yr ysbyty, roedd y staff fel milwyr – yn brwydro, heb wybod beth oedd o’u blaenau, beth fyddai’r canlyniadau na phwy fyddai’n dioddef.
“Roedd gofyn i staff weithio oriau hirach, a doedd rhai ddim yn gallu gadael y wardiau i gael bwyd yn ystod eu shifft. Gyda thai bwyta a chaffis wedi cau ledled y ddinas, roeddem ni fel aelodau’r diwydiant bwyd a diod yn teimlo y gallem helpu mewn rhyw ffordd. Roeddem yn deall na fyddai eu problemau i gyd yn diflannu dim ond am ein bod ni’n eu bwydo nhw, ond roedd y ddinas yn dymuno gwneud rhywbeth iddyn nhw. Doeddem ni ddim am weld staff yn bwyta bwyd cyflym llawn siwgr a halen a heb lawer o faeth. Roeddem am roi bwyd ffres iddyn nhw gan fusnesau gorau’r ddinas. Felly dyna wnaethon ni.”

Helpodd James Sommerin, o Bwydo’r GIG a The Sausage Revolution hefyd, gan weini miloedd o brydau a gafodd eu coginio yng ngheginau’r tai bwyta.
Dywedodd Lianne Daniels Prif Nyrs y Ward yn Uned Gofal Coronaidd, Prifysgol Athrofaol Cymru: “Ar ran hyr holl nyrsys a’r tîm yn yr Uned Gofal Coronaidd, hoffem ddiolch o galon am y prydau a’r danteithion rydyn ni wedi’u derbyn yn ystod yr wythnosau diwethaf.
“Roedd yn rhoi hwb i ni bob diwrnod! Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn.”
Hoffai’r Bwrdd Iechyd ddiolch i’w holl staff a’r gwirfoddolwyr anhygoel sydd wedi sicrhau bod yr Hafanau i Staff ar gael saith diwrnod yr wythnos ac a oedd yn danfon prydau a diodydd i wahanol safleoedd ysbytai i ardaloedd lle nad oedd staff yn gallu gadael eu lleoliad. Mae’r Bwrdd Iechyd yn ddiolchgar dros ben hefyd am haelioni’r cyhoedd a busnesau lleol a oedd wir wedi rhoi hwb i forâl staff yn ystod amser mor heriol.