Rhoi

Mae Nathaniel Cars yn falch o gadarnhau y byddant yn rhoi £75 o bob car a werthir i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ym mis Tachwedd. Felly pan yn siopa am gar newydd, neu am anrheg Nadolig arbennig, gallwch gefnogi eich hoff Elusen Iechyd wrth brynu!

Mae’r cynnig yn cynnwys gwerthiannau ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yng Nghaerdydd ar bob car, newydd ac ail law.

I weld y ceir sydd ar gael, ewch i https://www.nathanielcars.co.uk/ ac i weld rhai o’r cynigion eraill sydd ar gael gan Nathaniel Cars, gan gynnwys sut i fod yn aelod â cherdyn braint Arian AM DDIM, ewch i www.nathanielcars.co.uk/partners/cardiff-vale-university-health-board

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.