Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o rannu stori lwyddiant nodedig ar Ddiwrnod Calon y Byd eleni, gan ddangos sut mae rhoddion elusennol mewn ewyllysiau wedi helpu i drawsnewid yr amgylchedd gwaith i staff gwasanaethau cardiaidd yn Ysbyty Athrofaol Cymru (YAC). 

Diolch i haelioni rhoddwyr etifeddiaeth, mae sawl maes staff allweddol o fewn y Gyfarwyddiaeth Cardiothorasig wedi cael eu hadnewyddu’n helaeth — gan wella morâl, cydweithio, ac yn y pen draw, gofal cleifion yn sylweddol. 

Yn flaenorol, roedd ystafelloedd newid i staff mewn cyflwr gwael iawn, gyda thoiledau’n gollwng dŵr, cawodydd na ellid eu defnyddio, a chyfleusterau annigonol yn cael eu rhannu ar draws gwasanaethau trydyddol. Nid oedd y cyfleusterau hyn yn cyflawni safonau rheoli heintiau ac roeddent hefyd yn effeithio’n negyddol ar lesiant staff ac enw da’r gwasanaeth. 

Nawr, mae tair ystafell newid wedi cael eu hadnewyddu’n llwyr, ac maent yn cynnwys: 

  • Cyfleusterau cawod, toiled a sinc newydd 
  • Lloriau, waliau ac addurniadau ffres 
  • Loceri diogel, meinciau, a goleuadau gwell 

Mae’r trawsnewidiad wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dros 150 o staff arbenigol — gan gynnwys nyrsys cardiaidd, ffisiolegwyr, radiolegwyr, cardiolegwyr ymgynghorol, a rhanddeiliaid allanol — sy’n defnyddio’r cyfleusterau hyn bob dydd. 

Mae gwaith adnewyddu pellach o fewn y coridor wedi creu hyb cymunedol ar gyfer y timau Nyrsys Clinigol Arbenigol (CNS), gan gynnwys methiant y galon, seicoleg, adsefydlu cardiaidd, ACHD, ac addysgwyr ymarfer. Mae’r gofod hwn wedi dod â thimau a oedd wedi’u rhannu’n seilos yn flaenorol at ei gilydd, gan feithrin cydweithio a gwella llwybrau cleifion. 

“Roedden ni’n arfer gweithio mewn stafell fach a diflas. Nawr mae gennym swyddfa foethus gyda ffenestr fawr sy’n agor. Mae’n berffaith ar gyfer hyfforddiant a chydweithio.” – Louise, CNS 

“Gwelliannau enfawr o’n gweithle blaenorol. Effaith gadarnhaol bendant ar bob un ohonom.” – Sara, CNS 

Gyda’r gwaith adnewyddu terfynol wedi’i gwblhau, mae’r gwaith uwchraddio hwn wedi gwneud i staff deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, gan eu galluogi i ddarparu’r safon uchaf o ofal. 

Mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad clir rhwng lles staff a phrofiad cleifion. Pan fydd staff yn teimlo eu bod yn cael gofal, mae cleifion yn elwa — gan greu cylch rhinweddol o dosturi a rhagoriaeth. 

“Cafodd y penderfyniad i fuddsoddi arian gwaddol i adnewyddu’r adran Gardiothorasig ei yrru gan angen clir i wella amgylcheddau staff a chleifion.” Yn hanesyddol, nid oedd mannau staff gan gynnwys swyddfeydd, cyfleusterau newid a mannau gorffwys wedi derbyn unrhyw fuddsoddiad sylweddol. Mae’r gwaith adnewyddu hwn yn cynrychioli ymrwymiad hir-ddisgwyliedig i wella amodau gwaith ein timau, cefnogi lles, morâl a mannau ymarferol proffesiynol. 

“Yn ogystal, mae addurniad mewnol yr ardaloedd ar gyfer cleifion wedi’i alinio i greu awyrgylch mwy cydlynol a thawel ar draws yr adran. Drwy leihau’r teimlad clinigol a chyflwyno mannau mwy hamddenol, wedi’u cynllunio’n feddylgar, ein nod yw gwella profiad a lles cleifion yn ystod eu harhosiad. 

“Mae’r buddsoddiad hwn yn cefnogi diwylliant adrannol mwy integredig a chydweithredol ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu amgylchedd o ansawdd uchel i staff a chleifion. 

“Ni allwn ddiolch digon i roddwyr hael Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Rydym yn hynod ddiolchgar. Mae’r gefnogaeth hon yn golygu’r byd i ni, a hyd yn oed yn fwy felly i’r rhai y mae eu bywydau wedi newid.” – Ceri Phillips, Nyrs Arweiniol Cardiothorasig, a Sian Williams, Uwch Nyrs 

Drwy adael rhodd yn eich ewyllys i Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, gallwch helpu i greu amgylcheddau lle mae staff yn ffynnu a chleifion yn derbyn y gofal gorau posibl. 

Ar Ddiwrnod Calon y Byd eleni, ystyriwch wneud gwahaniaeth parhaol.  

Gallai eich etifeddiaeth chi fod yn guriad calon gofal y dyfodol. 

I gael gwybod mwy, ewch i: https://healthcharity.wales/giftinwills/  

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.