Rhodd mewn Ewyllys
Gadewch rodd o ddiolch am byth
Diolch i chi am gymryd yr amser i ystyried cefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drwy adael rhodd yn eich Ewyllys. Bob blwyddyn, mae arian a dderbynnir o roddion mewn Ewyllys yn cefnogi ymchwil a datblygiad, gwelliannau i wasanaethau ac amgylcheddau cleifion a phrosiectau lles staff, sy’n helpu i wneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion a staff.


Beth yw Rhodd mewn Ewyllys?
Gwaddol yw unrhyw rodd (ariannol neu asedau) a adawyd yn Ewyllys person; cyfarwyddyd i ran o’ch ystâd gael ei rhoi i unigolyn neu sefydliad ar ôl eich marwolaeth. Mae gadael rhodd yn eich Ewyllys, boed yn ganran o’ch ystâd, yn gyfandaliad, yn gyfranddaliadau neu’n eitem werthfawr, yn ffordd hael o helpu i wneud gwahaniaeth i ofal cleifion. Ar ôl darparu ar gyfer anwyliaid, hoffem ofyn i chi ystyried gadael rhodd yn eich Ewyllys. Gyda’n gilydd gallwn greu etifeddiaeth barhaus
Mathau o Roddion
Rhodd Weddilliol
Dyma beth sydd ar ôl o’ch ystâd pan fydd dyledion, trethi a rhoddion eraill wedi’u talu.
Rhodd Ariannol
Rhodd o swm penodol o arian yw hwn.
Rhodd Benodol
Mae hwn yn eitem neu gasgliad arbennig o eitemau, e.e. darn o waith celf.
Beth fydd yn digwydd i’m harian os byddaf yn gadael rhodd yn fy Ewyllys?
Pan fyddwch yn gadael rhodd yn eich Ewyllys, gallwch ddewis gwneud rhodd gyffredinol i’r Bwrdd Iechyd fel y gall staff clinigol benderfynu lle mae ei angen fwyaf; neu gefnogi gwasanaeth neu adran y mae gennych chi a’ch anwyliaid brofiad personol ohono.
Nid oes angen unrhyw ymrwymiad ariannol ar unwaith i gynnwys rhodd yn eich Ewyllys, fodd bynnag bydd eich rhodd garedig a hael yn rhan o’ch gwaddol i helpu eraill yn y dyfodol.
Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn un o’r sefydliadau GIG mwyaf yn Ewrop. Mae’n cefnogi cymunedau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg gydag ystod eang o wasanaethau iechyd a lles gan gynnwys: gwasanaethau sylfaenol a chymunedol; gwasanaethau acíwt a ddarperir yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau, ynghyd ag Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru; canolfannau iechyd cyhoeddus a thrydyddol.
Cenhadaeth y Bwrdd Iechyd yw “Byw’n Dda, Gofalu’n Dda, Gweithio Gyda’n Gilydd”, a’i weledigaeth yw y dylai gallu person i fyw bywyd iach fod yr un fath ble bynnag y mae’n byw a phwy bynnag ydyw.
Hanes Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro
Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Wedi’i sefydlu ym 1996, mae’r Elusen Iechyd yn tarddu o gasgliad o arian a godwyd gan dimau clinigol a rhoddion cyhoeddus hael, ac mae wedi datblygu i fod yn Elusen boblogaidd, sydd wedi ennill gwobrau, gyda’i hunaniaeth a’i huchelgeisiau ei hun.
Mae’r Elusen yn gweithio ochr yn ochr â’r Bwrdd Iechyd, gan reoli’r gwaith o weinyddu dros 300 o gronfeydd elusennol o ddydd i ddydd; cefnogi ymchwil, triniaeth, gofal cleifion, offer, prosiectau a gweithgareddau, i wella’r gwasanaethau a ddarperir gan gronfeydd y GIG.

Pam gadael rhodd yn fy Ewyllys i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro?
Mae’r GIG ar gael ar alw i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i Gaerdydd gyfan a Bro Morgannwg ac mae’n derbyn ei gyllideb gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Elusen Iechyd yn cefnogi’r Bwrdd Iechyd drwy helpu i godi arian ychwanegol, a derbyn a rheoli rhoddion. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â deiliaid cronfeydd mewn meysydd clinigol ac adrannau eraill i flaenoriaethu’r defnydd o gronfeydd elusennol. Ni waeth pa mor fawr neu fach, gall eich rhodd mewn Ewyllys wneud gwahaniaeth sylweddol i gleifion a staff. Ar ôl i chi ofalu am y bobl sydd agosaf atoch chi, gallai gwneud cyfraniad yn eich Ewyllys helpu mewn cymaint o ffyrdd.

Ariannu gweithgareddau cleifion a sesiynau lles

Cefnogi’r astudiaethau ymchwil a datblygu

Gwelliannau i amgylcheddau staff

Gwelliannau i amgylcheddau cleifion
Yma i helpu
Siaradwch â ni am eich dymuniadau
029 218 36042
Diolch am ystyried cefnogi gwasanaethau gofal iechyd ar draws Caerdydd a Bro Morgannwg drwy adael rhodd yn eich Ewyllys. Bydd eich rhodd yn galluogi’r Elusen Iechyd i barhau â’r gwaith pwysig y mae’n ei wneud i helpu a chefnogi cleifion, staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, am genedlaethau i ddod.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yno i chi a’ch anwyliaid, pryd bynnag y byddwch ein hangen ac ar gyfer pob cam o fywyd. Diolch am eich cefnogaeth hael.
