Derbyniwyd rhodd hael iawn o £2,725 yn ddiweddar gan Suzanne (gwraig), Josie ac Olivia (merched) Carran, a godwyd er cof am eu hannwyl Jamie Carran. Bydd yr arian yn mynd tuag at gefnogi Ward B1 yn Uned y Galon i Oedolion, Ysbyty Athrofaol Cymru, a ofalodd am Jamie ar hyd ei oes.
Ganwyd Jamie Carran â nam cynhenid ar y galon a chymhlethdodau eraill ar y galon. Cafodd lawdriniaeth ddwys ar y galon am y tro cyntaf yn 5 oed, pan gafodd siynt wedi’i osod i’w helpu i oroesi, a dywedwyd wrth ei rieni y byddai’n annhebygol iawn o fyw y tu hwnt i’w arddegau.
Dros y blynyddoedd, cafodd Jamie sawl llawdriniaeth ar y galon i’w helpu i fyw bywyd cyfforddus, ond cafodd broblemau ar hyd y ffordd. Yn y pen draw, penderfynwyd mai trawsblaniad ar y galon oedd yr unig opsiwn mewn gwirionedd, ond yn anffodus, ni fyddai heb ei gymhlethdodau. Er mwyn i Jamie gael ei ystyried ar gyfer y trawsblaniad, byddai angen iddo gael ei dderbyn i Uned y Galon yn Newcastle, i aros am galon gan roddwr yn ogystal ag afu; gan nad oedd yr afu yn ddigon cryf i wrthsefyll y llawdriniaethau, penderfynodd Jamie ofyn am gyfnod o aros, ac yn y cyfamser aeth ati i gwblhau rhestr o bethau yr oedd eisiau eu gwneud cyn cael ei symud i Uned y Galon yn Newcastle.
Pan ddechreuodd y pandemig ym mis Mawrth 2020, bu’n rhaid i Jamie hunanynysu a chafodd pob trawsblaniad ei atal dros dro. Prin iawn oedd y tebygolrwydd y byddai Jamie yn goroesi’n ddigon hir i gael y trawsblaniad, felly penderfynodd dreulio’r amser a oedd yn weddill yng nghwmni ei deulu.
Bu farw Jamie yn sydyn ar 14 Ebrill, yn 49 oed, yn ei gartref, yn ôl ei ddymuniad.
Dywed Suzanne Carran, gwraig Jamie: “Drwy gydol ei fywyd cynnar, nid oedd Jamie byth am i neb ei drin yn wahanol, ac er bod pethau’n amlwg yn anodd iddo, ni wnaeth byth ildio, a dyna oedd ei agwedd yn ystod ei oes gyfan. Nid oedd byth yn ochneidio na’n cwyno am ei sefyllfa, roedd yn derbyn y cyfan ac yn bwrw ymlaen.
“Gwnaeth Jamie a finnau gwrdd yn 1990 pan oeddwn i’n 16 ac ef yn 18, a gwnaethon ni briodi 5 mlynedd yn ddiweddarach. Ganed ein merch gyntaf, Josie yn fuan iawn, ac wedyn gwnaethom groesawu ein hail ferch, Olivia. Ganwyd y ddwy â chymhlethdodau bach ar y galon, ac er bod ambell gred y gallent fod wedi’u hachosi gan gyflwr Jamie, cafodd Josie ac Olivia wellhad llwyr ac maent bellach yn byw bywyd iach.”
“Yn anffodus, oherwydd COVID, ni allai dreulio cymaint o’r misoedd olaf pwysig hynny gyda’i deulu, ond unwaith eto, fel oedd yn nodweddiadol o Jamie, ni wnaeth byth ochneidio na chwyno, cymerodd bob dydd ar y tro a cheisio mwynhau bywyd cymaint â allai.”
“Roedd Jamie wir yn berson anhygoel, ac roeddwn yn meddwl y byd ohono.”