Rhoi

Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri’r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021;

Ailfrandio ac Ail-lansio Practis Mynediad i Ofal Iechyd Caerdydd fel ‘Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd’ i Grwpiau Agored i Niwed

Mae Practis Mynediad i Ofal Iechyd Caerdydd (CHAP) yn bractis meddyg teulu wedi’i reoli gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro sy’n darparu gwasanaethau hanfodol i grwpiau mwyaf agored i niwed Caerdydd. Yn ddiweddar, maent wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’r gwasanaeth maent yn ei gynnig i Geiswyr Lloches sy’n dod i Gaerdydd.

Yn rhan o’r gwaith sydd ar y gweill i ddatblygu’r gwasanaethau, mae CHAP yn bwriadu ehangu’r gwasanaeth a ddarperir i helpu grwpiau agored i niwed eraill megis Gweithwyr Rhyw, y Digartref a Chymuned y Teithwyr, sy’n rhai o’r grwpiau o bobl mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd a’r Fro. Caiff y gwasanaeth newydd ei ailfrandio fel Gwasanaeth Cynhwysiant Iechyd Caerdydd a’r Fro (CAVHIS).

Gwnaeth Lynne Topham, Rheolwr Ardal yn CHAP, gyflwyno cynnig i’w cefnogi gydag ailfrandio trwy ddarparu laniardau, bathodynnau enw a chrysau polo newydd ar gyfer staff gweinyddol y dderbynfa, a chrysau chwys i staff sy’n gorfod teithio i gefnogi grwpiau agored i niwed. Byddai’r cynnig hefyd yn cefnogi’r gwaith o brintio a dosbarthu deunydd hyrwyddo i safleoedd allweddol fel Parlyrau Rhyw a’r Ganolfan Opsiynau Tai ar gyfer y Digartref, er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth newydd.

Yn y cais, dywedodd Lynne: “Mae datblygu CAVHIS yn golygu y bydd mwy o bobl sy’n cael trafferth yn cael mynediad at ofal iechyd traddodiadol, ac sydd â’r lefelau uchaf o anghenion gofal iechyd, yn cael mynediad cyflym at sgrinio iechyd y cyhoedd a mynediad at ofal iechyd hanfodol.”

“Bydd darparu dillad, laniardau a chrysau chwys adnabod newydd yn hwb pellach i forâl staff gan y bydd yn creu ymdeimlad o ‘undod a balchder’ yn y gwasanaeth y byddant yn ei ddarparu wrth symud ymlaen.”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn hapus i gymeradwyo’r cynnig gan ei fod yn helpu gydag ehangu gwasanaethau i gefnogi rhai o’r grwpiau sydd wedi’u heithrio fwyaf yn ardal Caerdydd a’r Fro. Bydd y dillad newydd i staff hefyd yn hwb i’w morâl ac yn atgyfnerthu ysbryd tîm.

Offer Garddio ar gyfer Cleifion a Staff Ysbyty Dewi Sant

Ceir dwy ardd gaeëdig hygyrch yn safle Ysbyty Dewi Sant sydd angen gwaith cynnal a chadw pellach. Hoffai’r staff yn Ysbyty Dewi Sant fod yn rhan o’r gwaith o wella’r ardal y tu allan, ac maent yn bwriadu cynnwys y cleifion yn y gweithgareddau garddio yn ystod y misoedd cynhesach, yn rhan o’u hamserlen gweithgareddau lles sy’n cael ei datblygu gan Hyrwyddwyr Lles Ysbyty Dewi Sant.

Gwnaeth Ruth Cann, Uwch-nyrs Meddygaeth Integredig yn Ysbyty Dewi Sant, gyflwyno cais i brynu offer garddio sylfaenol sy’n cynnwys caniau dyfrio, potiau planhigion, compost, a chasgliad o berlysiau a phlanhigion i’w plannu allan.

Dywedodd Ruth: “Gwyddwn fod garddio yn weithgaredd sy’n lleihau straen. Mae’n weithgaredd lles sydd ag apêl gyffredinol i bob oedran a rhyw, ac yn gweddu i bersonoliaethau mewnblyg ac allblyg.”

“Bydd peth garddio sylfaenol yn annog cydlyniant tîm rhwng yr holl ddisgyblaethau. Bydd yn rhoi diben a rennir i’r timau rhyngddisgyblaethol sydd ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal cleifion yn unig.”

Roedd Panel Cynigion Loteri’r Staff yn hapus i gymeradwyo’r cynnig gan ei fod yn hyrwyddo’r effaith gadarnhaol y mae garddio yn ei chael ar les cleifion ac adeiladu tîm.

Pam ddylech CHI gefnogi’r Loteri’r Staff!

Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.

Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.

Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy a ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.