Gellir gweld isod ddwy enghraifft o geisiadau llwyddiannus a gyflwynwyd i Banel Cynigion Loteri’r Staff eu hystyried yn y cyfarfod, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2021;
Lleddfu’r Diflastod – Gemau Bwrdd ar gyfer Gofal Iechyd CEM
Mae Gofal Iechyd CEM yn gyfleuster yng Ngharchar Ei Mawrhydi yng Nghaerdydd i ddynion sydd ag anghenion gofal iechyd ychwanegol. Mae cyfnodau cyswllt yn ystod y dydd lle gallant ryngweithio â phreswylwyr eraill, fodd bynnag, ni fu unrhyw adloniant na gweithgareddau ar gael i wneud eu hamser yn y cyfleuster yn fwy diddorol a phleserus.

Gwnaeth Karen Mills, y Nyrs Arwain yng Ngofal Iechyd CEM a Michelle Davis, y Rheolwr Gweithredol, wneud cais am gyllid i brynu detholiad o gemau bwrdd i’r dynion eu defnyddio yn ystod eu cyfnod yng Ngofal Iechyd CEM, er mwyn caniatáu mwy o ryngweithio a ffordd ddiddorol o dreulio eu hamser. Yn y cynnig dywedodd Michelle: ‘Bydd hyn o fudd i’r dynion yng Ngofal Iechyd CEM drwy roi rhywbeth adeiladol a phleserus iddynt ei wneud yn ystod cyfnodau cyswllt. Bydd yn lleddfu diflastod ac yn hyrwyddo ymdeimlad o les drwy annog y dynion i ryngweithio â’i gilydd drwy wneud gweithgarwch pleserus.’ Roedd y gemau roedd Karen a Michelle yn gobeithio eu prynu yn cynnwys y gemau clasurol megis dominos, Connect 4 ac Uno, a gwnaethant hefyd holi’r dynion yng Ngofal Iechyd CEM ar hyn o bryd i weld beth oedd eu ffefrynnau.
Roedd y Panel Cynigion yn hapus i gymeradwyo’r cynnig hwn oherwydd ei fod yn hyrwyddo lles cleifion yn ogystal â gwella ansawdd eu hamser yng Ngofal Iechyd CEM. Roedd y gemau hefyd yn debygol o wella profiad y claf, gan arwain at greu cysylltiadau a chyfeillgarwch newydd.
Gwelir Michelle a Karen yn y llun ar yr ochr dde, gyda rhai o’r gemau a brynwyd.
Cyfarpar Cegin ar gyfer y Staff Gofal Iechyd yn CEM Caerdydd
Mae’r Staff Gofal Iechyd yn CEM Caerdydd yn dîm ymroddedig o weithwyr gofal iechyd sy’n aml yn gweithio sifftiau hir, dros nos i ddarparu’r gofal sydd ei angen ar y cleifion. Nid oes gan staff fynediad i gyfleusterau ffreutur na bar byrbrydau, ac o ganlyniad i’r amser mae’n ei gymryd i ddod i mewn ac allan o adeilad CEM Caerdydd, ni allant brynu cinio y tu allan.
Gwnaeth Michelle hefyd wneud cais am gyllid i brynu ystod o gyfarpar cegin i alluogi’r staff i storio a pharatoi bwyd ffres, yn ogystal â gwneud coffi yn y cyfleuster. Mae hyn yn cynnwys oergell fach, gril George Foreman, a pheiriant gwneud coffi hidlo.
Dywedodd Michelle: ‘Bydd hyn yn galluogi’r staff gofal iechyd yn CEM Caerdydd i baratoi amrywiaeth ehangach o brydau yn ystod eu hegwyliau. Bydd hefyd yn gwella morâl ac yn hyrwyddo gwaith tîm drwy egwyliau anffurfiol a dreulir yn bwyta gyda’i gilydd (pan gaiff y cyfyngiadau COVID presennol eu llacio).’
Roedd y Panel Cynigion yn hapus i gymeradwyo’r cynnig hwn am ei fod yn hybu morâl a phrofiad y staff. Mae gallu paratoi amrywiaeth ehangach o brydau hefyd yn golygu y gall y staff gofal iechyd barhau i deimlo’n llawn egni yn ystod gweddill eu sifft am eu bod wedi diwallu eu hanghenion maethol.
Pam ddylech CHI gefnogi’r Loteri’r Staff!
Mae Panel Cynigion Loteri’r Staff yn ymdrechu i gyflawni’r saith nod lles a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd â defnyddio’r pum dull o weithio; hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chynnwys.
Drwy ymuno â Loteri’r Staff, rydych yn cefnogi ystod eang o brosiectau a ariennir gan y Panel Cynigion, sy’n gwella gwasanaethau niferus ar draws y BIP. Drwy’r cyllid hwn, rydych yn helpu’r Panel Cynigion a’r Elusen Iechyd i wella pethau i’n staff a’n cleifion, gan ein helpu ni i gyd i gydweithio i greu Cymru Lewyrchus, Iachach a Chydnerth.
Os hoffech ymuno â Loteri’r Staff, gellir cwblhau ffurflenni cais yn electronig neu drwy ein gwefan; https://healthcharity.wales/hospital-staff/staff-lottery/. Dychwelwch ffurflenni Loteri’r Staff wedi’u cwblhau at fundraising.cav@wales.nhs.uk. Os hoffech wneud cais am gyllid gan Banel Cynigion Loteri’r Staff, cysylltwch â’r cyfeiriad uchod i gael manylion.
Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn eich annog i ymuno â Loteri’r Staff a gwneud cais am gyllid, sy’n gallu gwella eich adran neu wasanaeth a hysbysu eraill am fuddiannau ymuno â Loteri’r Staff. A phwy â ŵyr, efallai mai chi fydd ein henillydd nesaf?