Rhoi

Bydd Matthew yn rhedeg Hanner Marathon Bryste i gefnogi ei gydweithiwr a’i ffrind, Hannah. 

Mae Matthew a Hannah yn gweithio yn y sŵ, lle maen nhw wedi dod yn ffrindiau, ac maen nhw’n aml yn sgwrsio am redeg, rhywbeth maen nhw’n dau yn ei fwynhau. 

Un diwrnod yn y gwaith, daethpwyd o hyd i Hannah wedi cwympo ar ôl cael ffit. Gwnaeth Matthew, a oedd yn gyfrifol am gymorth cyntaf ar y safle, aros gyda hi a rhoi cefnogaeth iddi nes i’r parafeddygon gyrraedd. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, derbyniodd Hannah y newyddion torcalonnus bod ganddi diwmor canseraidd. 

Tra bod Hannah yn canolbwyntio ar ei thriniaeth, bydd Matthew yn rhedeg Hanner Marathon Bryste ar ei rhan. Fel ceidwad sŵ, anifeiliaid yw ei byd hi, felly bydd Matthew yn rhedeg wedi gwisgo fel drewgi (hoff anifail Hannah!) 🦨 

Os hoffech chi gefnogi Matthew, ewch i’w dudalen codi arian isod: 
👉 https://www.justgiving.com/page/hannah-matt 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.