Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Nuala Mahon, Cydlynydd Imiwneiddio wedi’i choroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd.
Ers blynyddoedd, mae Nuala wedi gweithio fel Cydlynydd Imiwneiddio, llawer o’r amser hwn ar ei phen ei hun, yn darparu addysg a hyfforddiant ar frechiadau, a sut i frechu, i gydweithwyr Gofal Sylfaenol ac Eilaidd. Yn ogystal â hyn, mae hi wedi hyrwyddo manteision brechu ar draws cymunedau Caerdydd a’r Fro.
Dywedodd Charis Joyce, Cydlynydd Imiwneiddio, “Mae Nuala wedi dangos ymroddiad a brwdfrydedd dros y rôl hon nad yw wedi pylu dros y blynyddoedd. Mae hi wedi bod yn ffynhonnell cyngor a gwybodaeth arbenigol i bawb yn y Bwrdd Iechyd sy’n rhoi brechiadau, neu’n rhoi cyngor arnynt – gyda’r nod o wella diogelwch a chynyddu’r nifer sy’n manteisio ar yr ymyriadau hyn sy’n achub bywyd.”
Dywedodd Rebecca Stringer, Uwch Nyrs Profi a Brechu Torfol, “Mae Nuala yn eiriolwr enfawr dros frechiadau ac mae ganddi gyfoeth o wybodaeth. Nid yn unig hynny, mae hi’n berson hyfryd hefyd. Enwebiad haeddiannol iawn.”
Bydd Nuala yn Arwr Iechyd ar gyfer mis Tachwedd ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae hi wrth ei bodd gyda’r enwebiad am y wobr.
Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.
Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.
Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!