Mae Meddygon Ymgynghorol Meddygaeth Frys Pediatrig yn cymryd rhan yn her Triathlon Sbrint Caerdydd ar gyfer cydweithwyr yn yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Gwnaeth Nikola Creasey, Meddyg Ymgynghorol Pediatrig ac Arweinydd Lles yr Uned Achosion Brys yn Ysbyty Athrofaol Cymru gysylltu ag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro. Mae Nikola yn angerddol am gefnogi ei chydweithwyr yn yr Uned Achosion Brys, y gwyddom i gyd fod yn rhaid iddynt ddelio â sefyllfaoedd hynod anodd a thrawmatig mewn amgylchedd dan bwysau, o ddydd i ddydd.
Yng ngeiriau Nikola, “Rydym yn dîm o Feddygon Ymgynghorol Meddygaeth Frys Pediatrig yn ymgymryd â her Triathlon Sbrint Caerdydd ar 30 Mehefin! Byddem wrth ein bodd yn codi rhywfaint o arian ar gyfer ein Hadran Achosion Brys ac yn benodol i’n helpu i ofalu am les ein staff anhygoel!
“Mae staff ein Huned Achosion Brys yn gweithio’n ddiflino mewn amgylchiadau hynod heriol ac yn gwneud gwaith anhygoel. Rydym wir eisiau eu cefnogi a gofalu amdanynt yn well fel y gallant barhau i ddarparu gofal rhagorol i’n cleifion! Mae’r triathlon yn mynd i fod yn her enfawr i ni (rhai ohonom yn fwy nag eraill!) felly byddem yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth yn fawr!”
Yn ymuno â Nikola ar gyfer yr her epig hon mae Hannah Murch, Sara Edwards, Helen Newsome ac Andora Webster, a chynhelir y digwyddiad ym Mae Caerdydd ddydd Sul 30 Mehefin 2024.
Dywedodd Nikola hefyd, “Mae gen i brofiad uniongyrchol o’r effaith mae ein gwaith yn yr Adran Achosion Brys yn ei chael arnom ni, y staff, ar ôl cael trafferth fy hun ar ôl digwyddiadau trawmatig, hyd yn oed flynyddoedd yn ddiweddarach. Rwy’n angerddol iawn dros sicrhau bod cymorth rhagweithiol ar gael i BOB aelod o staff yn hytrach nag aros nes eu bod eisoes yn dioddef. Gwyddom y gall staff sy’n derbyn gofal ac sy’n cael eu gwerthfawrogi ddarparu gofal llawer gwell a mwy diogel i’n cleifion, a dyna beth rydym i gyd eisiau parhau i’w wneud.”
Os hoffech chi gefnogi’r tîm anhygoel hwn, ewch i’w tudalen JustGiving.
Hefyd, cadwch lygad am eu Tîm Hanner Marathon Caerdydd a fydd yn cefnogi’r un achos ym mis Hydref eleni!
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gefnogi’r tîm hwn, neu godi arian ar gyfer Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro, cysylltwch â ni ar fundraising.cav@wales.nhs.uk