Donate

Mae’n bleser gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro gyhoeddi bod Neal Jones, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn Park Road Houses wedi’i goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Hydref, mewn pryd i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Fel aelod annatod o’r tîm nyrsio, dywedir bod ymroddiad Neal i ofal cleifion o fewn Gwasanaeth Adsefydlu ac Adfer y Bwrdd Clinigol Iechyd Meddwl yn rhagorol.

Gan roi anghenion ei gleifion yn gyntaf, mae Neal yn mabwysiadu  ymagwedd feddylgar a rhagweithiol i sicrhau eu lles. Mae’n trefnu gweithgareddau sydd nid yn unig yn cefnogi cleifion yn ystod eu hadferiad, ond hefyd yn darparu sgiliau bywyd cynaliadwy y gallant eu defnyddio wrth iddynt drosglwyddo yn ôl i’r gymuned. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys nofio a beicio sy’n annog lles corfforol a meddyliol.

Dywedodd Rheolwr y Ward, Owen Baglow, “Mae Neal wedi bod yn aelod allweddol o’n Prosiect Gardd, ac yn mynd ati’n barhaus i ddod o hyd i ffyrdd creadigol o gynnwys cleifion mewn tasgau ystyrlon fel dyfrio planhigion, torri lawntiau, a hyd yn oed peintio. Mae’r rhain yn sgiliau pwysig i gleifion sy’n paratoi ar gyfer byw’n annibynnol, ac mae ymagwedd gadarnhaol Neal sy’n canolbwyntio ar y claf wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu bywydau.

“Mae’n bwysig sôn bod Neal wedi bod yn wynebu heriau personol fel gofalwr, ond er gwaethaf hyn, mae’n parhau i ddod i’r gwaith gyda gwên ar ei wyneb ac yn llawn bywyd, gan ddod â phositifrwydd ac egni i’w gydweithwyr a’i gleifion.

“Mae ymrwymiad diwyro Neal i’w gleifion, hyd yn oed yn wyneb ei anawsterau ei hun, yn ei wneud yn rhagorol.”

Dywedodd yr Uwch Reolwr Nyrsio, Joanne Glover, “Mae Neal yn ased anhygoel i Park Road wrth hyrwyddo annibyniaeth i’n cleientiaid a rhoi’r hyder iddynt feithrin sgiliau newydd a gwella’r rhai presennol. Mae ymroddiad pobl fel Neal yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau pobl trwy wella ansawdd eu bywyd, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau, a rhoi’r gobaith sydd ei angen ar ein cleifion i fyw bywyd bodlon.”

Bydd Neal yn Arwr Iechyd yn ystod mis Hydref ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr.

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd.

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni.

Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk 
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd.

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr.

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel!

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.