Rhoi

DYMA ENILLWYR LOTERI STAFF £1,000 MIS RHAGFYR:

Rebecca Walsh Ward C5, Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW)

Emma Phillips Radioleg, Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW)

Emma Leyburn Cardioleg, Llandochau

Maureen Fletcher, Cleifion Allanol, Ysbyty Athrofaol Cymru (UHW)

Bu pedwar enillydd yn Raffl Loteri Staff mis Rhagfyr 2020. Cawsant £1,000 ac roedden nhw’n falch o glywed y newyddion gwych! Wrth i flwyddyn arall dynnu at ei therfyn, mae’r Loteri Staff wedi rhoi £87,000 o wobrau ariannol i 55 o aelodau lwcus y loteri drwy gydol 2020.

Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro sy’n rheoli’r Loteri Staff. Mae’n rhoi’r cyfle i staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro gael ennill £1,000 bob wythnos yn ogystal â chystadlu yn y Raffl Fawr a’r Raffl Arbennig flynyddol AM DDIM

Mae’r taliad i gael bod yn rhan o’r Loteri Staff yn cael ei dynnu’n awtomatig gan y gyflogres ac mae’n costio £1 bob wythnos. Pan fyddwch wedi cofrestru â’r Loteri Staff, bydd bob aelod yn cael rhif unigryw a rhif yr enillydd yn cael ei gynhyrchu ar hap gan gyfrifiadur.

Yn ddiweddar cafodd cyllid ei gymeradwyo er mwyn ariannu deunyddiau crefftau drwy’r gronfa loteri staff gyflym, er mwyn caniatáu i’r Tîm Anafiadau i’r Ymennydd Cymunedol gynnal eu digwyddiad cyntaf yn Ysbyty Rookwood lle cadwyd pellter cymdeithasol, sef “Cyfarfod celf a chrefft y Nadolig”. Fe gynhalion nhw sesiynau Zoom ar-lein hefyd. Darllenwch ragor o’r stori ar ein gwefan. https://healthcharity.wales/news/  

Mae’r Loteri Staff yn cefnogi staff ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro drwy gyhoeddi enillwyr newydd bob mis. Mae hefyd yn galluogi staff i wneud cais am gyllid gan y Panel Cynigion Loteri Staff, sydd wedi rhoi grantiau o dros £1.5 miliwn i gefnogi nifer o brosiectau ar draws y Bwrdd Iechyd, gyda chleifion, staff ac ymwelwyr yn elwa ohonynt.

Gellir cwblhau Ffurflen Gais y Loteri yn electronig yma a’i dychwelyd at fundraising.cav@wales.nhs.uk.

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.