Ym mis Ionawr 2015, roedd calon Martha Graham yn curo ddwywaith yn gynt na’r cyflymder arferol pan benderfynodd meddygon ei geni drwy doriad Cesaraidd brys pan oedd yn 35 wythnos. Cyflwr Permanent Junctional Reciprocating Tachycardia (PJRT SVT) sydd gan Martha, arhythmia cardiaidd prin, sy’n achosi iddi gael curiad calon cyflym iawn.
Dechreuwyd Ymgyrch Martha’s Dancing Heart gan fam Martha, Michelle Graham, sydd wedi addo codi £1miliwn yn ystod oes ei theulu i gefnogi’r Gwasanaethau Newyddenedigol a’r Gwasanaethau Cardioleg Pediatrig a ofalodd am Martha ar ôl ei genedigaeth.
Mae ymdrechion codi arian Michelle dros yr 8 mlynedd diwethaf wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae hi wedi cymryd rhan mewn sawl un o rasys Hanner Marathon Caerdydd a heriau rhedeg eraill, ac wedi trefnu ras ei hun pan gafodd y digwyddiad swyddogol ei ganslo yn ystod y pandemig COVID-19, ynghyd â grŵp o ffrindiau a chefnogwyr eraill Ymgyrch Martha’s Dancing Heart. Roedd Michelle hefyd yn gyfrifol am drefnu Dawns Fawr Martha’s Dancing Heart yn 2020, cyn dechrau’r pandemig, gan godi bron i £55,000. Mae’r arian a godwyd gan Ymgyrch Martha’s Dancing Heart wedi bod yn allweddol i lansiad y gwasanaeth monitro rhythm y galon o bell a thele-ecocardiograffeg brys ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Eleni, bydd Michelle ac 20 o anturwyr eraill yn cwblhau her Tri Chopa Cymru ar 27 Mai 2023, gan godi arian ar gyfer Ymgyrch Martha’s Dancing Heart. Ymdrech anhygoel arall i gefnogi Adran Gardioleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Diolch i Michelle a’r tîm am eu hymroddiad i newid bywydau, rydyn ni gyda chi bob cam i’r copa! Gallwch chi gefnogi’r tîm trwy gyfrannu yma.