Rhoi

Mae Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro yn falch o gyhoeddi bod Mark Powell, Swyddog Cynnal a Chadw Cyfleusterau Cynorthwyol, Ysbyty Athrofaol Llandochau wedi cael ei goroni’n Arwr Iechyd ar gyfer mis Awst. 

Fel Swyddog Cynnal a Chadw Cyfleusterau Cynorthwyol, un o’r meysydd y mae Mark yn gweithio ynddo yw’r Brif Adran Cleifion Allanol. Mae’r adran hon yn YALl yn fawr iawn ac yn aml yn brysur iawn gyda chlinigau yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00. Er mwyn ei roi mewn persbectif, mae dros 70 o ystafelloedd ac 8 toiled wedi’u gwasgaru ar draws yr uned, canolfan driniaeth, prif ardal aros, a’r coridorau hir niferus sy’n cysylltu â’r clinigau. Ar gyfartaledd mae 100 o gleifion yn cael eu gweld bob dydd, ac mae nhw’n aml yn dod â pherthynas neu ofalwr, yn ogystal â’r holl staff – meddygon, nyrsys, a fflebotomyddion sy’n gweithio yn yr adran. 

Er mwyn sicrhau bod yr ardaloedd yn lân ac mewn cyflwr da, mae Mark yn dechrau ei ddiwrnod gwaith yn oriau mân y bore. Dywedodd Christine Biddlecombe, Dirprwy Brif Nyrs ar gyfer y Brif Adran Cleifion Allanol, “Mae Mark yn weithgar, yn siriol, ac yn ymfalchïo cymaint yn ei waith. Bob dydd mae’r adran yn hollol lân, dwi wir ddim yn gwybod sut mae’n ei wneud! Ni allai fod yn lanach pe baem ni’n cael ymweliad brenhinol!” 

Tra’n gweithio o fewn y Brif Adran Cleifion Allanol, mae Mark hefyd yn gyfrifol am gadw’r Adran Gweithrediad yr Ysgyfaint yn lân ac yn daclus, sy’n ofod mawr arall. Mae’n amlwg bod Mark yn gweithio’n galed iawn. 

Parhaodd Christine i ddweud, “Rwyf bob amser yn diolch i Mark am ei waith, ac rwy’n gwybod bod yr holl staff yma wir yn gwerthfawrogi popeth mae’n ei wneud. Mae’n wir yn ymgorffori gwerthoedd craidd y Bwrdd Iechyd, yn enwedig ‘Cyfrifoldeb Personol — byddwch yn frwdfrydig a chymryd cyfrifoldeb am eich gwaith. ‘ Mae’n ysbrydoliaeth!” 

Dywedodd y Brif Nyrs a’r Rheolwr Nyrsio, Debra Woolf, “Yn ystod yr amser rydw i wedi gweithio gyda Mark, mae’n aml wedi mynd gam ymhellach ar gyfer yr adran. Gellir dibynnu arno bob amser i ymgymryd â’r holl dasgau yn effeithlon ac mae’n ymfalchïo’n fawr ym mhopeth mae’n ei wneud. Mae’n aelod gwerthfawr ac uchel ei barch o’n tîm.” 

Wrth siarad am yr enwebiad hwn, dywedodd Rheolwr y Tîm Cyfleusterau, Michael Ryan, “Mae Mark yn ased i’n tîm. Rydym mor falch ohono, mae’n gweithio i safon uchel iawn ac yn delio ag ardal fawr. Mae pawb yn ei hoffi!” 

Bydd Mark yn Arwr Iechyd yn ystod mis Awst ac yn derbyn rhodd gan y noddwr, Park Plaza Caerdydd. Mae wrth ei fodd gyda’r enwebiad am y wobr. 

Caiff y Wobr Arwr Iechyd ei chefnogi gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Park Plaza Caerdydd. 

Os ydych chi’n adnabod rhywun sydd wedi gweithio’n ddiflino i helpu cydweithiwr neu glaf mewn lleoliad gofal iechyd ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac yn haeddu cydnabyddiaeth, rhowch wybod i ni. 

Er mwyn enwebu eich Arwr Iechyd: E-bostiwch: fundraising.cav@wales.nhs.uk  
Dylai enwebiadau gynnwys: Eich enw, manylion cyswllt, enw’r enwebai a’i rôl, yn ogystal â rhai geiriau yn egluro pam yn union eich bod chi’n credu ei fod yn haeddu cael ei goroni’n Arwr Iechyd. 

Os ydych chi eisoes wedi enwebu rhywun, bydd yn cael ei gynnwys yn awtomatig yn y rownd nesaf i’w ystyried ar gyfer y wobr. 

Defnyddiwch #ArwrIechydCAF ar Twitter i roi’r gair ar led a dangos eich cefnogaeth i’n GIG anhygoel! 

Ymunwch â ni

Er mwyn cael gwybod am y newyddion diweddaraf gan y rhai sy’n codi arian i ni, ac i glywed am y prosiectau elusennol sy’n gwneud gwahaniaeth ar hyn o bryd, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr! Rydyn ni o ddifrif ynglŷn â diogelu data a’ch cyfrinachedd, fel sy’n weddus i elusen y GIG. Byddwn yn cadw eich manylion yn ofalus, ac ni fyddwn yn eu rhannu â neb. Dydyn ni ddim yn ‘rhoi pwysau’ arnoch i godi arian – fydden ni byth o blaid hynny.