Ar ddiwrnod heulog braf ym mis Mai, mentrodd y teulu Sparkes i Abertawe i gymryd rhan mewn her llawn adrenalin yn plymio o’r awyr i helpu i godi arian er cof am aelod annwyl iawn o’r teulu, Henry Sparkes.
Yn ddim ond pum diwrnod oed, aeth Henry yn sâl iawn a chafodd ei ruthro i’r ysbyty. Yn anffodus, ar ôl dyddiau o ymladd yn galed yn erbyn feirws a ddatblygodd i fod yn sepsis, daeth bywyd byr Henry i ben.
Pan oedd eu mab yn derbyn gofal yn yr ysbyty, gwnaeth Jenna a Chris gwrdd â sawl meddyg, nyrs, a meddyg ymgynghorol a ddaeth yn deulu iddynt i bob pwrpas, gan eu bod mor garedig, gofalgar a thosturiol.
Dywedodd Jenna, “Ar ôl i Henry farw cawsom gyfle i dreulio ychydig o eiliadau arbennig gydag ef, yn gwneud mowldiau llaw a thraed, yn paentio ei law a’i draed, ac yn bwysicaf oll, yn cael cwtshus. Doedden ni ddim wedi gallu cael cwtsh ers 10 diwrnod. Ni wnaeth neb ddweud bod yn rhaid inni adael yr ysbyty erbyn ryw adeg arbennig, a gallem dreulio cyhyd ag yr oedd ei angen arnom gyda Henry.
“Dyma pam rydyn ni mor angerddol am godi arian ar gyfer y ward. Fe wnawn ni unrhyw beth a allwn i helpu’r ward a helpu teuluoedd sy’n gorfod wynebu’r un peth â ni.”
I godi arian ar gyfer yr Uned Gofal Critigol Pediatrig yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru, fe wnaeth mam Jenna, Trudy, fentro i’r awyr, ynghyd â ffrind i’r teulu a oedd yn ddigon dewr i neidio! Yn rhyfeddol, fe wnaethant godi dros £3115 sy’n swm aruthrol!
Ar 14 Mehefin, gwnaeth Jenna, Chris a’r teulu ymweld â Rheolwr y Ward, Nichola, a chydweithwyr eraill y Bwrdd Iechyd yn yr Uned Gofal Critigol Pediatrig lle buont yn trafod faint maen nhw wedi’i godi hyd yma. Fe wnaethon nhw hefyd roi amrywiaeth eang o fyrbrydau cyflym fel cawl a nwdls, yn ogystal â chreision, diodydd ac uwd ar gyfer ystafell y teulu; bwydydd a byrbrydau a oedd yn golygu na fyddai’n rhaid i rieni adael eu plant ar adeg mor anodd a gwerthfawr.
Diolch enfawr i Jenna a’i theulu am yr holl bethau rhyfeddol y maent wedi’u gwneud i gefnogi Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad yn ystod yr hyn sydd heb os wedi bod yn gyfnod hynod anodd wedi cael ei werthfawrogi gan bawb yr effeithiwyd arnynt.
Maent yn sianelu eu tristwch aruthrol i weithredu’n gadarnhaol, gan godi arian tuag at achosion sy’n agos at eu calonnau. Yn eu galar, maent wedi ymrwymo i gadw’r atgof am Henry yn fyw.